Mae Llywodraeth Cymru dan y lach am gyhoeddi ‘Strategaeth Tlodi Plant’ sy’n wishi-washi ac yn amhenodol. (I fod yn deg, anaml y bydd strategaeth o’r fath yn unrhyw beth ond llawn dop o fflim-fflam a jargon…)

Y gŵyn fawr yw nad oes targedau pendant nag amserlen ar gyfer cyflawni’r amcanion, ac felly nad oes unrhyw ffordd o ddweud a yw’r strategaeth yn llwyddo.

Fe wyddoch yn iawn fod gan y Llywodraeth hon darged ar gyfer yr iaith Gymraeg – miliwn o siaradwyr erbyn 2050.