Mae’n bwrw. Yn bwrw’n drwm. Roedd hi’n arfer ei fwynhau o, y teimlad clyd o fod yn ei hoff le a’r tywydd i gyd yn aros tu allan.

Mae Eirlys wedi teithio. Mae ’na luniau ar y wal. Eirlys a’r plant ar draeth yn Llydaw. Eirlys ac Ed mewn cotiau trymion, a’r Statue of Liberty yn welw a blinedig y tu ôl iddyn nhw. Eirlys ar ben yr Wyddfa yn bwyta paced o grisps beef and onion, yn gwenu fel giât ar yr un oedd tu ôl i’r camera.