Cafodd Golwg sgwrs gyda chyn-brif leisydd Gorky’s Zygotic Mynci, sydd ar daith yn perfformio ei stwff solo eto gyda band am y tro cynta’ ers naw mlynedd…

Dros y penwythnos bu Euros Childs yn perfformio mewn neuadd bentre’ ar gyrion Caernarfon, yn rhan o daith sydd yn mynd ag e drwy Brydain i dynnu sylw at ei albwm newydd, Beehive Beach.