Gwers gyntaf doethineb; adnabod ein hunan, ac yn ein cyfnod modern mae yna fwy o ddulliau nac erioed i wneud hynny.

Pan ddaw i bersonoliaeth a chymeriad fy hun, dwi wastad wedi myfyrio ar le mae natur yn gorffen a magwraeth a dylanwad yn dechrau?

Ydych chi erioed wedi meddwl am ba mor wahanol – neu beidio – byddai eich personoliaeth, cymeriad a diddordebau petai chi wedi eich magu i deulu gwahanol (tlawd/cyfoethog) neu mewn gwlad wahanol ac i ddiwylliant estron?