Ar hyn o bryd, does dim llawer yn gyffredin rhwng ardal Uwchmynydd ym mhen eitha’ Penrhyn Llŷn a chyn-bentre’ mwyngloddio White Grit yn nwyrain yr hen Sir Drefaldwyn. Ond mae hynny ar fin newid.

Os bydd argymhellion y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth yn cael eu derbyn, mi fydd pobol y ddwy fro yn rhannu Aelodau o’r Senedd – chwech i gyd, a phob un yn atebol i etholwyr sydd 105 o filltiroedd a mwy na dwy awr a thri chwarter o daith ar wahân.