Mae o wir yn fy syfrdanu fod y Brenin Charles am ddechrau tymor yr Hydref gyda £45 miliwn o godiad cyflog. Mae hyn yn 50% o gynnydd yn ei incwm ers y flwyddyn ddiwethaf, a hynny am gyflawni ei ddyletswyddau brenhinol. Ar ynys ble mae yna fwy o fanciau bwyd yn cael eu defnyddio nac erioed, fy nghenhedlaeth i yw’r gyntaf sydd â llai o gynnydd economaidd na chenhedlaeth ein rhieni, a ble mae’r llywodraeth Lafur newydd eisiau cyflwyno mwy o lymder economaidd… mae’n hela fi’n benwan a chynddeiriog. Y