Hen ddefodau traddodiadol fel y Fari Lwyd sy’n ysbrydoli gwaith yr artist o’r Werddon sydd wedi mynd ati i ddysgu Cymraeg…

Mewn rhannau o Iwerddon mae yna hen draddodiad ar Ŵyl San Steffan o’r enw Hela’r Dryw, sy’n debyg iawn i’r Fari Lwyd yma yng Nghymru – esgus, mae’n debyg, am ychydig o firi a rhialtwch wedi’r Nadolig, gan ddod ag ychydig o liw i’r dyddiau tywyll, oer.