Pianydd o Fangor gafodd y “cyfrifoldeb” o drefnu noson arbennig iawn i gofio Morfydd Llwyn Owen…

Bu sawl digwyddiad i gofio am y cyfansoddwr Morfydd Llwyn Owen – un o gerddorion pwysicaf Cymru – yn ystod yr Eisteddfod ym Mhontypridd.

Un o’r digwyddiadau cyffrous a fu oedd cyngerdd golau cannwyll ar y nos Iau ym mhabell Encore. Roedd y cyngerdd, ‘Morfydd Llwyn Owen 27’,  wedi’i drefnu gan Gwenno Morgan, pianydd a chyfansoddwr 25 oed o Fangor.