Gobeithio nad ydi problemau’r carchardai yn arwydd o’r hyn sydd i ddod o ran y Llywodraeth Lafur. Gobeithio bod ganddi gynlluniau tymor hir i weddnewid y drefn.

Roedd hi’n hollol amlwg y byddai yna drafferth wrth i gannoedd o bobol gael eu carcharu am eu rhan yn nherfysgoedd Lloegr. Os oedd gweithredu yn angenrheidiol, mae yna elfen o berfformiad gwleidyddol hefyd ym mrys y llysoedd… ar draul pob trosedd arall.