1868 oedd y flwyddyn cyrhaeddodd y rheilffordd Betws-y-coed wrth ymestyn draw o Lanrwst; roedd y rheilffordd wedi cyrraedd Llanrwst ers 1863. A dyma’r cyfnod allweddol wrth i ymwelwyr fedru cyrraedd y rhannau yma o Ddyffryn Conwy. Gyda’i thirwedd Alpaidd gwyllt a chreigiog roedd artistiaid fel David Cox a Clarence Whaite wedi sefydlu’r Wladfa Artistiaid yng ngwesty’r Royal Oak ym Metws-y-coed. Mae un o luniau Cox i’w weld yn y lolfa hyd heddiw.