Fe ddaeth pobol Porthmadog ynghyd yn y ganolfan hamdden leol i groesawu un o nofwyr gorau gwledydd Prydain yn ôl o’r Gemau Olympaidd.

Ym mhwll Byw’n Iach Glaslyn y cychwynnodd taith Medi Eira Harris i’r Olympics ym Mharis, lle ddaeth hi’n chweched am nofio ar ei chefn yn y ras 100 metr.