“Dw i wedi clywed ambell un yn dweud mai hon oedd yr Eisteddfod orau erioed … fyswn i’n cytuno efo nhw!” Dyna sylw’r Prifardd Carwyn Eckley fore Llun, ar ôl cael ei Gadeirio yn Brifardd Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.

Enillodd y bardd 28 oed o Benygroes, Dyffryn Nantlle y Gadair am gyfres o 12 cerdd hynod bersonol o dan y testun ‘Cadwyn’ – casgliad a fydd yn “aros yn hir yn y cof,” yn ôl un o’r beirniaid, Aneirin Karadog.