Eurgain Haf oedd yr ail lenor o fro’r Eisteddfod i ennill un o wobrau mawr yr Eisteddfod. Enillodd y Fedal Ryddiaith gyda’i nofel Y Morfarch Arian – a gafodd ei chanmol gan y beirniaid Annes Glynn, John Roberts ac Elen Ifan am yr arddull sgrifennu “cadarn” a’r cymeriadau “cyfareddol”.