Dyma’r tro cyntaf iddi gael ei chynnal yn y gorllewin, a bydd cyfle i weld byddin o grefftwyr wrth eu gwaith…

Bydd 80 o grefftwyr yn dod ynghyd yng Nghastell Aberteifi fis nesaf ar gyfer Gŵyl Grefft Cymru.

Beirniad rhaglen The Great Pottery Throwdown, Keith Brymer Jones, fydd yn agor yr ŵyl, a bydd y crochenydd enwog yn rhoi sgwrs am ei fywyd a’i waith hefyd.