Yn ôl beirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen, fe ddylai pobol fynd ati i brynu nofel Gymraeg “nad ydych wedi ei darllen” yn hytrach na chwyno am atal y wobr ddydd Mawrth.

Jerry Hunter a gafodd y dasg ddiflas o gyhoeddi i’r byd nad oedd teilyngdod yn y gystadleuaeth o lwyfan y Pafiliwn ddydd Mawrth, ar ran ei gyd-feirniaid Catrin Beard a Marlyn Samuel.