Cafodd medalau gwobr goffa T H Parry Williams eu cyflwyno yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf i ddau sylfaenydd Cwmni Theatr Maldwyn – gan blant y dyn a fu’n allweddol i lwyddiant y cwmni.

Penri Roberts a Linda Gittins yw enillwyr y wobr eleni – y ddau, ynghyd â’r diweddar Derec Williams, a sefydlodd Gwmni Theatr Maldwyn ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn ym Machynlleth ym 1981.