Mae’r pwyslais ar gig, llysiau a physgod lleol mewn bwyty sy’n rhoi hwb i’r iaith ar lannau’r Fenai…
Gweld cyfle wnaeth pâr priod fu’n gweithio ym maes teledu a byd y celfyddydau pan ddaeth hen lofft hwyliau ar y farchnad.
Mae buddsoddiad o £500,000 gan Dylan Huws a’i wraig Elen ap Robert wedi trawsnewid yr adeilad yn fistro a bar ym mhentref y Felinheli.