Yr wythnos hon mae un math o gystadlu brwd yn dod i ben ac un arall yn cychwyn yn swyddogol.
Draw ar gae’r Royal Welsh yn Llanelwedd mae gwartheg, geifr, moch a defaid wedi bod yn cystadlu am y gorau.
Yn Golwg yr wythnos hon rydym yn hel atgofion am un o feibion enwocaf cefn gwlad Cymru, a digymar Dai Jones Llanilar.
Er iddo ein gadael ni ym mis Mawrth 2022, mae’r cariad a deimlir at y canwr, y cyflwynydd a’r amaethwr enwog mor fyw ag erioed.
Fe gafodd cyfrol llawn atgofion am yr eicon ei lansio ar Faes y Sioe Fawr yr wythnos hon, ac fe gewch flas ohoni yma.
Ac wrth i un sioe fawr yng ngwaelodion Powys ddarfod mae un newydd ar gychwyn draw yn Ffrainc.
Mi fydd y sdiclars yn gwybod fod y Gemau Olympaidd wedi cychwyn yn barod, gyda’r chwaraewyr pêl-droed a rygbi saith bob ochr eisoes wrthi.
Ond nos Wener fydd y seremoni agoriadol swyddogol a’i basiant lliwgar yn digwydd, a hynny – am y tro cyntaf erioed – y tu allan i stadiwm chwaraeon.
Fe fydd y sioe i’w gweld ar lannau’r afon Seine ym Mharis, gyda’r 10,500 o athletwyr sy’n cymryd rhan yn cael eu cludo ar gychod am chwe chilomedr drwy’r brifddinas.
Ac yn eu mysg fe fydd yna Gymry balch… fe gewch hanes rhai ohonyn nhw ar dudalennau chwaraeon y cylchgrawn.
Hefyd mae ganddo ni erthygl benodol yn edrych ar y seiclwyr o Gymru sydd â chyfle gwirioneddol i wneud eu marc draw yn Ffrainc.
Yr amlycaf o’r rheiny yw Josh Tarling o bentref Ffos-y-Ffin yng Ngheredigion.
Yn 20 oed, Josh yw’r pencampwr Ewropeaidd am rasio yn erbyn y cloc dros 28.7km.
Mi fydd yn cystadlu am y fedel aur ddydd Sadwrn a dymunwn y gorau iddo yntau a phob Cymro a Chymraes arall draw yn yr Olympics.