Ar drothwy’r Gemau Olympaidd ym Mharis, mae hunangofiant un o athletwyr gorau Cymru wedi ei gyhoeddi.
Fe gafodd Ron Jones ei eni a’i fagu yng Nghwmaman, y pentref hwnnw yng Nghwm Cynon fagodd y band roc Stereophonics.
Gwibiwr oedd Ron ac ef oedd piau record sbrint 100m Cymru am 22 mlynedd.
Yn 1968 roedd yn gapten ar dîm athletau Prydain yn y Gemau Olympaidd ym Mecsico.
Ar ôl ymddeol o’r trac, bu yn Brif Weithredwr clwb pêl-droed Queens Park Rangers yn y 1970au a Rheolwr Gyfarwyddwr Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn y 1980au.
Treuliodd chwarter canrif yn Gyfarwyddwr SportsAid Cymru Wales, yn rhoi cymorth i athlewtry ifanc feithrin eu doniau ar y trac.
Yn fwyaf diweddar, gorffennodd Ron ei hunangofiant ddyddiau cyn iddo farw’n sydyn ym mis Rhagfyr 2021, yn 87 oed.
Ei weddw Linda Chamberlain-Jones a’r hanesydd athletau Clive Williams gafodd y dasg o roi’r hunangofiant, Running Through My Life, at ei gilydd.
Yma mae Linda yn sôn am yr hyn oedd yn gyrru ei gŵr i fod yn un o wibwyr gorau ei genhedlaeth…
All neb wadu dylanwad y cyfryngau cymdeithasol ar bobl ifanc heddiw; yn ystod fy mhlentyndod i, teledu gafodd yr effaith fwyaf. Ond i Ron, yn tyfu i fyny yn y 1930au a’r 40au, comics oedd yn mynd â’i fryd.
Roedd ganddo ddau arwr yn ei lyfrau comig. Un oedd y cymeriad yng nghylchgrawn y Wizard o’r enw Wilson a redodd yn y Gemau Olympaidd, gyda’r uchelgais i godi carreg fawr drom, a’r llall oedd Alf Tupper ‘The Tuff of the Track’, cymeriad yn Rover.
Roedd Alf yn fachgen dosbarth gweithiol, oedd yn hyfforddi trwy redeg i fyny ac i lawr mynyddoedd, a neb yn disgwyl iddo ennill yn erbyn cystadleuwyr crand o’r brifysgol. Daeth llawer o stori Alf yn stori Ron.
Y cymeriadau yma o’i gomics, a’i arwr go-iawn, Ken Jones, enillydd medal arian 100 metr yng Ngemau Olympaidd 1948 yn Llundain ac un o fawrion y byd rygbi, ysbrydolodd Ron i fod yn athletwr.
Yn fab i löwr, magwyd Ron yng Nghwmaman, pentref bychan ger tref Aberdâr. Roedd ei gartref wedi’i amgylchynu gan fryniau ac roedd yn hoffi rhedeg i bobman – yn amlach na pheidio i ddianc rhag yr anhrefn yr oedd wedi’i greu!
Y tro cyntaf iddo sylweddoli ei fod yn gyflymach na’r rhan fwyaf o’i ffrindiau oedd mewn dyddiau chwaraeon yn Ysgol Ramadeg Aberdâr ac yna ym Mhencampwriaethau Ysgolion Morgannwg. Os oedd yn cael ei guro yn y digwyddiadau gwibio 100, 200 a 400 llath, a oedd yn cael eu rhedeg ar laswellt, roedd hynny fel arfer oherwydd bod yr enillydd yn gwisgo sgidiau pigog a Ron yn rhedeg mewn daps (doedd ganddo mo’r arian i brynu pâr o sgidiau pigog).
Ar ôl gadael ysgol, datblygodd ymhellach tra’n gwneud ei wasanaeth cenedlaethol gyda’r Awyrlu Brenhinol yn yr Almaen lle bu’n arbennig o lwyddiannus yn y ras 400 llath.
Pan ddychwelodd i fywyd sifil yn Aberdâr, roedd yn benderfynol o barhau i hyfforddi a chystadlu cyn gynted â phosibl.
Yr anfantais fwyaf oedd y diffyg cyfleusterau. Doedd yna ddim clwb athletau lleol ac yn holl bwysig, doedd yna ddim trac rhedeg.
Ar ôl cael gwybod na allai gystadlu mewn pencampwriaethau oni bai ei fod yn aelod o glwb athletau, aeth i Gaerdydd ac ymuno â Roath Harriers (sydd bellach yn rhan o Glwb Athletau Caerdydd).
Roedd y clwb wedi’i leoli yn Stadiwm Maendy a olygai y gallai hyfforddi ar drac rhedeg lludw’r stadiwm, ond dim ond unwaith yr wythnos y gallai fforddio tocyn bws i gyrraedd yno.
Am y pum mlynedd nesaf roedd y rhan fwyaf o’i hyfforddiant yn cael ei wneud ar gaeau glaswellt, anwastad ac ar lwybr ger y rheilffordd.
Gwibiwr gorau Ewrop
Er gwaethaf yr heriau yma, wnaeth Ron ddim ildio a daeth ei foment fawr ym 1956 pan redodd ym Mhencampwriaethau Cymru ac, er mawr syndod i bawb, gan gynnwys ef ei hun, daeth yn bencampwr gwibio 100 llath Cymru.
Cyn hynny, roedd yn argyhoeddedig mai’r 400 llath fyddai ei gryfder ond wnaeth o erioed gystadlu yn y 400 wedyn, gan ganolbwyntio ei ymdrechion ar y sbrint 100 llath ac yn achlysurol, y 220 llath.
Rhwng yr amser hwnnw a 1970, enillodd 12 teitl 100 llath/metr Cymreig, gosododd 28 record sbrintio Gymreig, daeth yn sbrintiwr rhif un yn Ewrop ac ynghyd â’i dri aelod o dîm Prydain Fawr, roedd yn dal record byd yn y ras gyfnewid 4 x 110 llath.
Cystadlodd dros Gymru bedair gwaith yng Ngemau’r Gymanwlad, bu’n aelod o dîm Prydain Fawr 26 o weithiau mewn gemau rhyngwladol mawr. Bu iddo gystadlu mewn tair Pencampwriaeth Ewropeaidd a dwy o’r Gemau Olympaidd, gan goroni’r cyfan fel capten tîm athletau Prydain yn y Gemau Olympaidd yn Ninas Mecsico yn 1968.
Yn ystod ei yrfa athletau cafodd yr anrhydedd o fod yn gapten Cymru, Lloegr (bu’n byw yn Lloegr o 1960 i 1980) a Phrydain Fawr. Enillodd fedal efydd Gemau’r Gymanwlad yn y ras gyfnewid 4 x 110 llath a medal efydd Ewropeaidd yn y 4 x 100 metr.
Er gwaethaf cystadlu mewn dwy Gêm Olympaidd a rhedeg mewn rownd derfynol Olympaidd mewn un, ei ddiffyg medalau a barodd iddo gredu – mewn byd a oedd bob amser eisiau gwybod faint o fedalau yr oeddech wedi’u hennill – ei fod wedi tangyflawni.
Trwy gydol ei yrfa athletau bu’n cystadlu fel amatur tra hefyd yn gweithio yn llawn amser. Ar ôl ymddeol o gystadlaethau rhyngwladol, cafodd gyfle i gyfuno ei gefndir chwaraeon â’i brofiad rheoli busnes i fod yn Brif Weithredwr Clwb Pêl-droed Queens Park Rangers.
Ar ôl pedair blynedd yn QPR daeth yn Rheolwr Gyfarwyddwr Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ac am gyfnod byr yn Brif Weithredwr clwb Portsmouth.
Yna treuliodd chwarter canrif yn helpu’r elusen SportsAid Cymru Wales i godi arian i ddarparu cymorth ariannol i gystadleuwyr ifanc o Gymru, o oedran ysgol, ar ddechrau eu gyrfa chwaraeon. Aeth amryw ohonynt yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru a Phrydain Fawr yng Ngemau’r Gymanwlad, cystadlaethau Ewropeaidd, y byd a’r Gemau Olympaidd.
Ymddeolodd o’r elusen ym mis Tachwedd 2019 yn 85 oed.
Rhoi trefn ar yr atgofion
Yn 2020, yn ystod cyfnod y clo, pan oedd angen her arno, fe gafodd Ron ei berswadio o’r diwedd i ysgrifennu ei hunangofiant fel y byddai gan ein teulu gofnod parhaol o stori ei fywyd.
Nid oedd yn arbennig o frwdfrydig ac roedd yn meddwl ei fod yn wastraff amser ac ymdrech, gan ddweud yn aml ei fod yn meddwl na fyddai unrhyw un yn ei gael yn ddiddorol. Yn ffodus, doedd dim her arall ar gael!
Doedd Ron ddim yn hoffi cael gwared â phethau ac, yn yr achos hwn, daeth y nodwedd hon o’i gymeriad yn ddefnyddiol iawn. Roedd ganddo focsys a chesys yn llawn o raglenni digwyddiadau athletaidd yn mynd mor bell yn ôl â’i ymddangosiadau ym Mhencampwriaethau Ysgolion Morgannwg.
Roedd llythyrau a chardiau post yr oedd wedi eu hysgrifennu yn ystod ei deithiau athletau dramor a channoedd o doriadau papur newydd, ffotograffau, ac yn bwysicaf oll, dyddiaduron.
Gwnaeth gofnod dyddiol o 1959 i 1970, gan gynnwys ei drefn hyfforddi, ei gystadlaethau, amseroedd a lleoliad ac weithiau, sylwadau ar ei berfformiad.
Cymerodd fisoedd i ni roi trefn ar y blychau a rhoi popeth yn nhrefn dyddiad. Dechreuodd ysgrifennu ar 19 Awst 2020, ei ben-blwydd yn 86 oed, a gorffen ar Noswyl Nadolig 2021. Cawsom fwynhau dydd Nadolig gyda’n merch a’n hwyrion a phum niwrnod yn ddiweddarach, yn sydyn ac yn annisgwyl bu farw, ar 30 Rhagfyr, 2021.
Mae ei hunangofiant, Running Through My Life, yn gofnod gonest a chynhwysfawr o’i fywyd, ei frwydrau a’i rwystredigaethau fel athletwr amatur, yn enwedig yr anafiadau, ei siomedigaethau a’i lwyddiannau a’i brofiadau yn cystadlu dros Gymru a Phrydain Fawr mewn sawl rhan o’r byd.
Mae’n ysgrifennu am ei gyfeillgarwch a’i gystadleuwyr ar y trac, yn enwedig gyda chyd-aelod o dîm Prydain Fawr, Lynn Davies, sef y Cymro ddaeth yn Bencampwr Naid Hir Gemau Olympaidd 1964.
Hefyd mae ganddo atgofion annwyl am ei berthynas â Lillian Board a oedd yn ffrind agos ac yn bartner hyfforddi yn y cyfnod cyn Gemau Olympaidd Dinas Mecsico yn 1968.
Fe gafodd hi ei bedyddio gan y Wasg yn ‘Golden Girl of British Athletics’; yn 17 oed, bu’n cystadlu dros Loegr yng Ngemau’r Gymanwlad yn Jamaica ac yn 19 fe enillodd fedal Arian Olympaidd yn y 400m.
Y flwyddyn ganlynol enillodd ddwy fedal aur ym Mhencampwriaethau Ewrop yn y ras gyfnewid 800m a 4 x 400m. Gyda chymaint o’i gyrfa athletaidd eto i’w wireddu, bu farw’n drasig ddyddiau ar ôl ei phen-blwydd yn 22 oed.
Roedd Ron wastad yn dweud mai yn ystod ei yrfa athletau y bu’n llefain fwyaf yn ei fywyd.
Troi at fyd pêl-droed
Cariad cyntaf Ron oedd cystadlu a’r ail oedd hyfforddi, ond yn rhyfedd iawn, ni fu’n hyfforddi athletwyr eraill. Ond cafodd y cyfle i weithio ar y trac gyda chwaraewyr pêl-droed a rygbi.
Teimlai’n gryf fod cyflymder yn agwedd bwysig iawn o berfformiad chwaraewr a chafodd foddhad aruthrol o weld ei ddylanwad yn cynyddu cyflymder chwaraewyr o gwmpas y cae a’r gwelliant yn lefel eu ffitrwydd, oedd yn caniatáu iddynt ddal ati i redeg hyd at funud olaf gêm.
Nid tasg hawdd oedd ysgrifennu’r llyfr i Ron. Roedd yn waith caled ac ar adegau, yn gybolfa o emosiynau iddo. Ond, ar ôl ei roi ar waith, roeddwn yn gwybod y byddai’n gorffen. Nid oedd y math o berson i gilio rhag her.
Gyda’i hunangofiant wedi’i gwblhau, ei ddymuniad oedd, “y bydd fy nheulu a phwy bynnag sy’n ei ddarllen yn gweld y llyfr yn ddiddorol ac efallai’n ysbrydoli”.
“Dathlu’r bachgen oedd yn rhedeg fel y gwynt”
Un o wleidyddion enwocaf Cwm Cynon sydd wedi sgrifennu’r rhagair i hunangofiant Ron Jones.
Fe gafodd Kim Howells ei fagu ym Mhen-y-waun ger Aberdâr a bu yn Aelod Seneddol Pontypridd rhwng 1989 a 2010.
Ac ym mlynyddoedd cynnar y ganrif hon roedd yn Ddirprwy Weinidog Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn Llywodraeth Lafur Newydd Tony Blair.
Mae Kim Howells yn dweud fod Ron yn dal yn ysbrydoliaeth yn ei filltir sgwâr gyda’r trac athletau lleol wedi’i enwi ar ei ôl.
“Ganed Ron yn 1934 yng nghanol cyfnod anodd pan oedd dirywiad yn y galw am lo. Ac o’r gymuned hon a oedd wedi’i chwalu’n economaidd, daeth bachgen i’r amlwg a redodd mor gyflym, a siaradodd â chymaint o awdurdod a hyder â’i gyfoedion, waeth beth fo’u rheng neu eu cefndir, ac yr oedd cymaint o ymddiriedaeth a pharch gan ei gyd-chwaraewyr nes iddo gael ei wneud yn gapten tîm athletau Prydain yng Ngemau Olympaidd Dinas Mecsico 1968.
“I’r bobl ifanc mwyaf dawnus, efallai mai stadiwm athletau Ron Jones yn Aberdâr yw ble maen nhw’n breuddwydio, y cam cyntaf i gystadlu ar lefel Olympaidd.
“Ac os oes angen mwy o ysbrydoliaeth arnyn nhw, does dim angen iddyn nhw edrych ymhellach na’r enw uwchben y fynedfa, gan ddathlu’r bachgen oedd yn rhedeg fel y gwynt o Gwmaman.”