Y fam 40 oed o bentre’r Tymbl yn Sir Gaerfyrddin yw Rheolwr Busnes Tetrim Teas.

Sefydlwyd y cwmni te llesol di-elw dair blynedd yn ôl gyda’r bwriad o greu te iach, gyda chynaliadwyedd a’r iaith Gymraeg wrth wraidd y busnes.

Yn ôl Kelly mae yfed y te yn cynnig llwyth o fanteision, gan gynnwys clirio pen niwlog, helpu gyda threuliad a lleihau straen a phryder…

Beth yw hanes Tetrim Teas?

Cafodd y busnes ei ddechrau gan Mari Arthur oedd yn arfer bod yn berchen ar sba iechyd Tsieineaidd yng Nghaerdydd. Roedd hi’n arfer prynu te llesol o Tsieina ond ar ôl Brexit roedd hi’n awyddus i sefydlu cwmni te iechyd gyda model busnes ethical a defnyddio cymaint o gynhwysion lleol a Chymreig ag oedd hi’n gallu. Y bwriad oedd i roi cyfleoedd gwaith i bobol leol hefyd.

Sut mae eich stwff chi yn wahanol i weddill y te sydd ar y farchnad?

Mae gan bob un te yn ein casgliad fuddion iechyd ac ry’n ni’n defnyddio cynhwysion naturiol a lleol yn y te, sydd wedi’i grefftio yn Nhrimsaran yn Sir Gâr. Mae cynaliadwyedd yn rhan bwysig iawn o’r busnes. Ni’n trio lleihau ein milltiroedd bwyd ac mae’r pecynnu ni’n ddefnyddio wedi cael ei ailgylchu. Ryden ni jest wedi dechrau tyfu madarch egsotig ein hunain, sef Madarch Mwng Llew, Shiitake ac Oyster, i ddefnyddio yn y te hefyd a fyddwn ni hefyd yn gallu eu gwerthu i gwmnïoedd eraill. Mae gyda ni dair uned ar draws Cymru ar gyfer hyn – un yn Sir Gâr, un yng Ngheredigion ac un yng Ngwynedd, ac ry’ ni wedi cael cyllid gan [gynllun] Arfor [sy’n hybu’r economi yn y Fro Gymraeg] i ddechrau ar y prosiect. Mi fydd hynny’n bendant yn lleihau ein milltiroedd bwyd.

Pa fath o fuddion sydd gan y te ar gyfer iechyd?

Mae gennym ni’r Te Gwraidd Riwbob, sydd wedi’i wneud gyda rhiwbob o Sir Fôn, ac mae o wedi cael ei wneud o by-products, felly cynhwysyn fyddai wedi mynd i’r sbwriel. Mae’r te yma’n gut-kind, yn helpu gyda threuliad ac yn gostwng colesterol. Ryden ni wedi gwneud ymchwil trwy gynnal treialon clinigol gyda Phrifysgol Aberystwyth i brofi’r manteision hyn.

Mae’r Te Madarch Mwng Llew yn de goleuo ac mae’n dod mewn dau flas – afalau a sinamon, a Madarch Mwng Llew gyda tsili, sinsir a cardamom. Buddion yr un yma yw bod gan y madarch grynodiad uchel o wrthocsidyddion. Mae’n dda i’r ymennydd ac yn gallu clirio brain fog, yn helpu i leihau straen a phryder, gwella ffocws meddyliol, rhoi mwy o egni a diogelu’r cof hefyd.

Pa mor bwysig yw’r iaith Gymraeg i’r busnes?

Pwysig iawn ac ryden ni’n annog pawb i drio siarad Cymraeg yn y gweithle – dim bwys pa lefel o’r iaith maen nhw’n siarad. Mae rhai yn fwy hyderus na’r lleill. Mae’r Gymraeg yn iaith gyntaf i fi ond mae lot o Wenglish ynddo fe achos fel yna fi’n siarad yn y pentref, ond does dim ots… Mae jest angen i bawb siarad faint bynnag maen nhw’n gallu. Ni hefyd yn cynnig gwersi Cymraeg ar-lein i’r aelodau o’r cwmni sydd ddim yn rhugl.

Rydym wastad yn hysbysebu holl waith y cwmni yn ddwyieithog hefyd, boed hynny ar bamffledi neu ar y socials. Rydym ni’n trio rhoi’r Gymraeg yn gyntaf pan ni’n hysbysebu hefyd.

Beth yn union yw busnes di-elw?

Dydyn ni ddim yn cymryd unrhyw elw o’r busnes ac mae’r ffaith ein bod ni’n fusnes di-elw yn golygu ein bod ni’n gallu mwynhau rhoi yn ôl i’r cymunedau lleol trwy brosiectau amrywiol. Ryden ni’n rhedeg grŵp wythnosol o’r enw Tŷ Te i bobol ddod at ei gilydd i drafod iechyd a lles dros baned o de. Ni hefyd yn gwneud prosiectau tyfu planhigion te gyda’r ysgolion lleol. Mae 10% o elw’r unedau madarch yn mynd yn ôl i’r gymuned hefyd.

Beth yw eich ofn mwya’?

Sbeidars. Mae daddy long legs yn iawn, ond dim sbeidars mawr!

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?

Fi’n trio mynd mas am wâc rownd y pentref pan fi’n gallu, fel arfer dros fy amser cinio.

Beth sy’n eich gwylltio?

Pobol sydd ddim yn dangos cwrteisi, a gofal cwsmer gwael. Mae angen bod yn garedig a chwrtais mewn bywyd. Does dim rheswm dros beidio bod.

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Byddwn i’n gwahodd y teulu cyfan a chael cinio dydd Sul gyda lot o refi neu farbeciw yn yr haul. Ond fi fyddai’n rhaid gwneud y coginio mae’n debyg!

Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?

Fy ngŵr, Jonathan. Ni wedi bod yn briod am 11 mlynedd ac wedi bod gydag ein gilydd ers 16 mlynedd, ac mae gennym ni ddau o blant.

Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?

Happy days.

Hoff wisg ffansi?

Wnes i wisgo lan fel jailbird gyda’r plant ychydig o flynyddoedd yn ôl ar gyfer Calan Gaeaf ac roedd hwnna’n hwyl. Roedd y plant yn edrych yn ciwt hefyd. Mae Calan Gaeaf yn grêt achos mae jest yn esgus i wisgo lan.

Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?

Aethon ni i Barc Oakwood ar drip gyda’r ysgol pan o’n i’n tua naw oed a wnes i ddisgyn oddi ar y dinghy oedd yn eich cario i lawr y waterslide. Codais i lan ar y diwedd ac roedd fy ngwallt yn wlyb a fy holl ddillad yn socian… Ac roedd pawb yn fy ngwylio! Doedd dim dillad sbâr gyda fi felly roedd rhaid i fi wisgo gwisg staff y parc trwy’r dydd ar y trip – roedd hwnna’n cringe.

Gwyliau gorau?

Fi’n mwynhau pob gwyliau lle’r yden ni fel teulu yn cael treulio amser sbesial gydag ein gilydd, ond roedd ein mis mêl ym Mecsico yn sefyll mas. Aethon ni i Riviera Maya sydd ddim yn bell o Cancun ac roedd e’n lyfli.

Aethon ni i Efrog Newydd ar fy mhen-blwydd yn 40 ac roedd hwnna’n wyliau sbesial hefyd… Lot o hwyl.

Ni’n hoffi mynd ar wyliau jest i gael amser i droi’r meddwl ffwrdd ac ymlacio. Er ein bod ni’n byw gydag ein gilydd fel teulu, rydech chi’n gallu treulio amser sbesial gydag eich gilydd pan ar wyliau.

Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?

Meddwl gormod am beth sydd eisiau ei wneud y diwrnod nesaf. Mae pen fi’n meddwl gormod. Fi ffili troi fe ffwrdd.

Hoff ddiod feddwol?

Rosé… ond pina colada pan fi’n mynd ar wyliau. Fi’n gwybod fy mod i ar wyliau pan mae gyda fi pina colada yn fy llaw.

Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?

Fi ddim rili’n darllen ond weithiau fydda i’n hoffi rhai gan gomediwyr. Ond mae’n well gen i fynd i’w gweld nhw’n fyw mewn sioeau. Fi wedi gweld Russell Kane, Sarah Millican, Russell Howard, Jimmy Carr, Paul Smith… Lot.

Hoff air?

Ffab. Fi’n dweud e trwy’r amser!

Hoff artist cerddorol?

Os mae rhaid i fi ddewis, Elton John neu Queen. Mae Elton John yn legend. Aethon ni i weld e yn Abertawe cwpl o flynyddoedd yn ôl ac roedd e’n grêt. Mae’n gallu rhoi sioe dda arno.

Rhannwch gyfrinach efo ni…

Fi’n bwyta Nutella’r plant mas o’r jar heb iddyn nhw wybod a phan does neb yn edrych.