Mae cystadleuaeth Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn ddeg oed eleni, a’r rhestr fer yn un gyffrous ac amrywiol eto.
Ers 2014, mae artistiaid megis Sŵnami, Gwenno, Mared a Pedair wedi cipio’r tlws, sy’n cael ei chyflwyno yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol.
The Gentle Good oedd yr enillydd cyntaf un ddeng mlynedd yn ôl yn Llanelli, ac mae ei albwm diweddaraf ar y rhestr fer eleni.
Tasg y beirniaid Gruffudd Jones, Tomos Jones, Gwenno Morgan, Keziah O’ Hare, Mared Thomas ac Owain Williams yw dewis enillydd o blith y deg sydd wedi dod i’r brig y tro hwn.
Rhestr fer 2024:
Amrwd – Angharad Jenkins a Patrick Rimes
Bolmynydd – Pys Melyn
Caneuon Tyn yr Hendy – Meinir Gwilym
Dim dwywaith – Mellt
Galargan – The Gentle Good
Llond Llaw – Los Blancos
Mynd â’r tŷ am dro – Cowbois Rhos Botwnnog
Sŵn o’r stafell arall – Hyll
Swrealaeth – M-Digidol
Ti ar dy ora’ pan ti’n canu – Gwilym
‘Albyms haeddiannol’
Mae Dirprwy Gyfarwyddwr Artistig yr Eisteddfod yn un o drefnwyr y wobr ac yn dweud ei bod hi’n “wych” cael dathlu degawd eleni.
“Ymgais yw e i dynnu sylw at yr albyms sy’n dod allan dros y flwyddyn,” meddai Sioned Edwards.
“Rydyn ni nawr yn y cyfnod hyrwyddo’r gystadleuaeth er mwyn tynnu sylw i’r deg albwm sydd wedi cyrraedd y rhestr fer – efallai bod rhai pobol wedi methu rhai ohonyn nhw fel daethon nhw allan yn ystod y flwyddyn.
“Mae o’n gyfle i dynnu sylw at y cynnyrch grêt sy’n cael ei ryddhau’n ystod y flwyddyn.”
Â’r wobr yn dathlu carreg filltir o bwys, mae’n gyfle i edrych yn ôl ar bwy sydd wedi ennill dros y blynyddoedd, meddai Sioned, gan ychwanegu bod y Steddfod “reit prowd” eu bod nhw wedi gallu cefnogi’r sîn fel hyn.
Y naw enillydd hyd yma fu…
2014: The Gentle Good – Y Bardd Anfarwol
2015: Gwenno – Y Dydd Olaf
2016: Sŵnami – Sŵnami
2017: Bendith – Bendith
2018: Mellt – Mae’n Hawdd Pan ti’n Ifanc
2019: gohirio’r gystadleuaeth
2020: Ani Glass – Mirores
2021: Mared – Y Drefn
2022: Sywel Nyw – Deuddeg
2023: Pedair – mae ‘na olau
“Mae’r naw sydd wedi ennill, deg efo eleni, yn albyms haeddiannol sy’n haeddu bod yna,” meddai Sioned Edwards.
“Mae hwnna’n rhywbeth eithaf pwysig, ein bod ni’n cynrychioli’r sîn gerddoriaeth Gymraeg i gyd, ar draws genres.
“Mae’r rhestr yn dangos hynny.”
Adlewyrchu sîn ‘iach’
Albwm gyntaf Pedair, mae ‘na olau, gipiodd y wobr y llynedd. Cafodd y pedwarawd gwerin, sy’n cynnwys Siân James, Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym a Gwenan Gibbard, goblyn o Eisteddfod ym Moduan y llynedd, gan mai hwythau hefyd oedd yn gyfrifol am gyngerdd agoriadau ‘Y Curiad’.
Er bod gan y bedair seiliau cerddorol cryf iawn cyn ennill y teitl, a Meinir Gwilym, Gwyneth Glyn a Gwenan Gibbard wedi ymddangos ar y rhestrau byrion gyda phrosiectau unigol cyn hynny, roedd dod i’r brig “yn hyfryd”.
“Mae pethau wedi bod bron yn arallfydol, mae [llwyddiant Pedair] wedi dod o’r unlle rywsut. Mae o wedi bod mor, mor hyfryd,” meddai Siân James.
“Fe wnaethon ni gychwyn jyst cyn Covid, roedd o’n grêt, lyfli.
“Yn sydyn iawn, ddaru fo ffrwydro. Diolch i gân Meinir, ‘Cân y Clo’, dw i’n meddwl bod honna wedi dal dychymyg pawb, roedd o mor syml ac yn union fel oedd pawb yn teimlo.
“Flwyddyn diwethaf fe wnaethon ni gyngerdd mawr ‘Y Curiad’, ac fe wnaeth hwnna gymryd lot fawr o egni – nid i ni’n unig ond i bawb, roedd o’n anhygoel. Wedyn yr eisin ar y gacen oedd i ni ennill Albwm y Flwyddyn. Yn y prysurdeb [adeg Steddfod], doeddwn i ddim wedi ystyried y peth.
“Roedd ffeindio allan ein bod ni wedi ennill yn ‘waw’, mae hi’n gystadleuaeth sy’n adlewyrchu teimlad y gynulleidfa, er mai panel ydyn nhw.”
Ychwanega ei bod hi’n braf gweld Meinir Gwilym ar y rhestr fer eleni, gyda’i chasgliad diweddaraf, Caneuon Tyn yr Hendy.
“Mae o’n lyfli gweld Meinir, wrth gwrs, ar y rhestr. Mae hi wedi bod mor, mor brysur a gweithgar ac mae o’n hyfryd gweld hi’n cael y gydnabyddiaeth yna.
“Dyna be sy’n hyfryd am y gystadleuaeth, mae pob genre yna, sy’n adlewyrchu pa mor iach ydy cerddoriaeth gyfoes ar hyn o bryd yng Nghymru.”
Bydd Pedair yn chwarae ar Lwyfan y Maes yn y Brifwyl ar ddydd Mawrth (6 Awst) am 4:45, ac yn dod â gig Cymdeithas yr Iaith gyda’r Gentle Good a Mari Mathias i ben ar y nos Fercher (7 Awst).
‘Gwobrwyo gwaith da’
Albwm Sywel Nyw o ganeuon gafodd eu cyfansoddi a’u perfformio ochr yn ochr â rhestr o artistiaid megis Mark Roberts gynt o Gatatonia, Endaf Emlyn a Lauren Connelly gipiodd y teitl yn 2022. Lewys Wyn, prif leisydd Yr Eira, sy’n gyfrifol am brosiect Sywel Nyw a’r albwm gyntaf lwyddiannus, Deuddeg.
“Roedd o’n fraint anhygoel i fi, mae o’n ryw fath o glod nad ydy lot o gerddorion yn ei gael. Mae o’n ryw fath o label yn dweud bod rhywun wedi gwneud gwaith da,” meddai Lewys.
“Mae cerddorion yn mynd o fis i fis yn rhyddhau cerddoriaeth, yn gigio, a phrin iawn maen nhw’n cael eu cymeradwyo.
“Roedd o’n neis cael y gydnabyddiaeth, fwy na dim byd – ryw fath o sêl yn dweud: ‘Fe wnes di lwyddo efo’r prosiect yna neu albwm yna’, oedd yn beth neis.
“Roeddwn i wedi bod yn gweithio arno fo dros gyfnod o ddwy flynedd, lot o waith wedi mynd mewn iddo fo, felly roedd o’n neis ar y diwedd bod o wedi cael y llwyddiant yna.
“Dw i’n meddwl bod yr enw, o ran ‘Albwm Cymraeg y Flwyddyn’, yn dueddol o fynd yn weddol bell oherwydd ym meddwl y cyhoedd mae o fel bod o’n cadarnhau bod be maen nhw’n ei wneud yn dda, bod be maen nhw’n ei wneud o werth.”
Ym Mhontypridd, bydd Sywel Nyw yn perfformio ym Maes B ar y nos Fercher ac yn gwneud set DJ yng Nghaffi Maes B.
- Bydd yr enillydd yn cael ei wobrwyo ym Mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ar y dydd Gwener, 9 Awst