Cut and shut’ yw’r enw ar yr arfer o gymryd dau gar sydd wedi bod mewn damweiniau, a’u cyfuno i greu un cerbyd “newydd”. Fe allai pen blaen un Ffordun fod yn llanast, a phen ôl Ffordun arall fod wedi profi pancan ddifrifol. Y gêm yw torri’r ddau gar yn eu hanner, a weldio’r haneri sydd heb eu difrodi at ei gilydd, i greu cerbyd sy’n ymddangos, ar ôl côt o baent, yn barod am y lôn.