Wedi’r holl helbulon, roedd yn rhaid iddo fynd.

Do, fe adawodd dan gwmwl yn dilyn honiadau o ymddwyn yn annymunol tuag at gydweithiwr.

A bellach, welwn ni fyth mohono yn dawnsio’r tango ar y teledu eto.

Doedd ymadawiad Graziano di Parma o Strictly Come Dancing yn synnu neb, a’r gofid yw bod y bennod ddiweddaraf hon am bylu rhywfaint ar sglein y rhaglen boblogaidd sy’n dathlu ei phen-blwydd yn ugain oed eleni.

Lawr yn y Bae, lle maen nhw yn ceisio dathlu chwarter canrif o ddatganoli, a’r sglein yn prysur bylu, mae prif ddyn y Blaid Lafur wedi gorfod ffocs-trotio off ddawnslawr y Senedd, ar ôl profi tipyn o Saturday Night Fever ers cael ei ethol yn Brif Weinidog nôl ym mis Mawrth.

Ond o leia’ fe fydd gan Wmffra Vaughan ap John Travolta Gething ddigon o amser i lyfu ei glwyfau a mireinio ei Brooklyn Shuffle, sef y ddawns ddisgo enwog honno yn Saturday Night Fever, yr Haf hwn.

Canys, gyfeillion, mae gan y 60 o Aelodau’r Senedd y telerau gwyliau mwya’ hael yng Nghymru, Lloegr a Llanrwst.

‘Toriad yr Haf’ mae’r wyth wythnos bant o’r Bae yn cael ei alw, NID gwyliau. Fel yna, mae modd i’r gwleidyddion honni nad ar wyliau maen nhw, ond nôl yn eu hetholaethau yn llafurio a helpu eu hetholwyr.

Ond mewn difri’, be’ wnawn nhw am wyth wythnos? Ddyla ymweld â’r Royal Welsh, y Steddfod a sioeau lleol lenwi wythnos, ond be am y saith arall?

Maen nhw ar £72k y flwyddyn, felly mi ddylen nhw fedru fforddio Mediteranean Cruz am dair wythnos… ond mi fyddai hanner eu gwyliau nhw dal ar ôl…

Cymharu

Yn swyddogol, mae ‘Toriad yr Haf’ ein Seneddwyr yn cychwyn ddydd Llun nesaf, 22 Gorffennaf, ac yn ymestyn hyd at 15 Medi… dychmygwch y fath beth. Mis Awst cyfan i diclo’ch ffansi!

A sut mae hyn yn cymharu gyda Senedd San Steffan? Nid yw gwyliau Haf eleni wedi eu pennu eto, ond y llynedd roedd aelodau Tŷ’r Cyffredin bant o 21 Gorffennaf hyd at 4 Medi, sef CHWE WYTHNOS.

Ddim cystal â Senedd Cymru felly, ond cofiwch fod MPs ar fwy o gelc – £91k, ar ôl derbyn codiad cyflog o 5.5% eleni.

Lan yn yr Alban maen nhw yn cael NAW WYTHNOS o wyliau Haf, rhwng 29 Mehefin ac 1 Medi.

Ac mae aelodau Holyrood ar £72k, fel eu cefndryd Celtaidd lawr yn y Bae.