Annwyl Wynford,

Mae fy ngŵr yn dweud fy mod i’n hypochondriac – yn dychmygu bod pob math o afiechydon arna i – er bod pob prawf meddygol hyd yma yn dangos fy mod i’n holliach. Mae o’n dweud mai ofn marw ydw i – yn dilyn gweld fy nhad a mam yn dioddef a marw’n greulon o ganser.