Un o straeon noson yr etholiad cyffredinol yma yng Nghymru, ac ar draws rhannau o Loegr, oedd twf Reform UK.
Cipiodd y blaid sydd yn cael ei harwain gan Nigel Farage bum sedd yn San Steffan, gan gynnwys sedd Mr Brexit ei hun yn Clacton. Ond yn fwy arwyddocaol na hyn oedd y ganran o’r bleidlais gafodd Reform wrth ddod yn ail mewn sawl etholaeth Gymreig.
Yn genedlaethol fe ddenodd Reform 14% o’r bleidlais, ac o ganlyniad i hyn mi’r oedd y blaid yn ail mewn 98 o seddi, gyda 13 o’r rheiny yng Nghymru.
O safbwynt Cymreig, cafodd y blaid berfformiad trawiadol mewn nifer o etholaethau yn ne Cymru, gyda’i neges am rewi mewnfudo yn taro deuddeg mewn cymunedau sydd â’r lefelau isaf o fewnfudo, yn rhyfedd ddigon.
Daeth canlyniad gorau Reform yng Nghymru yn Llanelli, gyda’u hymgeisydd Gareth Beer yn ail ac o fewn 1,500 o bleidleisiau i’r enillydd, sef Nia Griffith o’r Blaid Lafur.
“Mi oedd o fel mynd ar reid wyllt mewn ffair ar tua 1,000 o filltiroedd yr awr,” meddai Gareth Beer yn trafod y teimlad o weld faint o bleidleisiau roedd ei ymgyrch wedi denu, sef 11,247.
“Ddaru ni weld be oedd yn digwydd wrth i ni weld y pleidleisiau yn cael eu cyfri, ac mi’r oedd o’n deimlad – O Mam Bach!
“Dwi’n eithaf realistig, ac o ystyried poblogaeth draddodiadol y Blaid Lafur yma, a’r ymdrech ddaru Plaid Cymru roi i mewn i’r sedd, ddaru ni yn sicr wneud yn llawer iawn gwell na fyddech chi wedi’i ddisgwyl.”
Tu hwnt i Lanelli, does ddim amheuaeth bod Reform wedi cael effaith ar ganlyniadau yn y Gogledd, gydag Emmett Jenner yn ennill bron i 10% o’r bleidlais ym Môn.
Fe gollodd Virginia Crosbie ei sedd o 537 o bleidleisiau yno, a byddech yn tybio fod cyfran sylweddol o’r 3,223 gafodd Reform ar yr ynys wedi eu dwyn oddi ar y Ceidwadwyr, ac yn ddigon i roi Llinos Medi o Blaid Cymru ar y brig.
“Taro deuddeg gyda nifer o bobol yng Nghymru”
Yn edrych tuag at etholiad Senedd 2026, y disgwyl yw y bydd Reform yn gweld cyfle i allu cipio nifer arwyddocaol o seddi lawr ym Mae Caerdydd.
“Mae’r blaid yn credu ei bod yn mynd i wneud yn dda yn yr etholiad yn 2026,” meddai Gareth Beer sydd yn bwriadu sefyll.
“Mi’r ydyn ni’n taro deuddeg gyda nifer o bobol yng Nghymru. Dydyn ni ddim yn Dorïaid, ac er y sylw, dw i ddim yn meddwl ein bod ni’n adain dde chwaith.
“Ac mae pobl o gefndiroedd gwahanol hefyd wedi pleidleisio i ni. A hynny yn amrywiaeth, o bobl gyda thai sydd werth miliynau o bunnoedd i bobl sydd yn byw mewn tai cyngor – roedden nhw yn falch o gael bwrdd hysbysebu Reform o flaen eu tai.
“Mae’r ffaith ein bod o blaid pobl sydd yn gweithio wedi taro deuddeg gyda meddylfryd nifer o etholwyr yng Nghymru, yn enwedig oherwydd ein hanes diwydiannol, a phethau sydd yn digwydd yng ngwaith dur TATA ym Mhort Talbot.
“Ddaru fy nghyd-ymgeisydd ddod yn ail i Reform yn etholaeth Castell Nedd a Dwyrain Abertawe heb wario unrhyw arian, felly dw i’n meddwl bod hyn yn dangos llwyddiant y neges gan y blaid.”
Mae Gareth Beer ei hun yn rhywun sydd wedi “pleidleisio i bawb heblaw’r Torïaid” yn y gorffennol, ac mae o’r farn bod Reform yn apelio at genedlaetholwyr Cymreig sydd ddim yn hapus gyda’r “wokeness” sydd yn cael ei bwysleisio gan Blaid Cymru, a phobl sydd “wedi cael llond bol” ar Lywodraeth Lafur Cymru.
“Dw i’n meddwl bod yr hyn sydd wedi digwydd gyda’r Torïaid yn Lloegr yn mynd i ddigwydd gyda’r Blaid Lafur yma yng Nghymru.”