Aeth tua blwyddyn heibio ers i mi ffeindio fy hun mewn dŵr poeth ac ynghanol brwydr ddiwylliannol yr Eisteddfod a’r polisi iaith. Y trydydd tro ers 2018. Fe wnes i a fy nghyd-aelod mewn band ar y pryd wrthod chwarae ar Lwyfan y Pafiliwn yn yr Eisteddfod o ganlyniad i’r pwysau roeddwn i a cherddorion eraill yn ei dderbyn i newid unrhyw ddwyieithrwydd yn ein caneuon, er mwyn cael ‘mwy o Gymraeg’ ynddyn nhw. Roedd y rhan fwyaf ohonom ni’n rapwyr, ac felly mae newid geiriau yn broses ble mae llif yr