Mae’r cyfnod rhwng yr 16eg a’r 17eg ganrif wedi bod ar fy meddwl yn ddiweddar. Fe es i ar daith dywys o amgylch Mallwyd ym mis Mai yn olrhain camau’r ysgolhaig a chlerigwr, Dr John Davis [1567-1644]  ac yn fwy diweddar rwyf wedi bod wrthi yn gwrando yn ddiwyd ar bodlediad Yr Hen Iaith sydd, o benodau 39 i 43, wedi bod yn trafod y Dadeni Dysg a’r Diwygiad Protestannaidd yng Nghymru.