Maen nhw wedi bod yma yn canfasio. Dim i gyd – tydi’r rhan fwyaf heb drafferthu – ond ambell un, yn gwisgo eu rosettes fel tasa nhw wedi ennill mewn sioe bentref, eu cegau’n llawn o eiriau parod a chelwyddau maen nhw eu hunain yn eu credu. Dwi’n teimlo bechod drostyn nhw am y siom sy’n siŵr o ddod, un ffordd neu’r llall, a dwi’n eiddigeddu atyn nhw hefyd am fod mor fendigedig o naïf.