Yng nghanol holl ddwli’r Etholiad Cyffredinol mae’n hawdd anghofio hynt a helynt gwleidyddiaeth Cymru.

Ond mae yna un peth sydd fel drewdod yn cysylltu’r Etholiad â’n Senedd, sef cefnogaeth Keir Starmer i’n Prif Weinidog, Vaughan Gething.

Dylid cofio fod y Blaid Lafur wedi cefnogi’n frwd y bwriad i gynnal pleidlais o ddiffyg hyder yn Humza Yousaf. Rhagrith pur, felly, yw eu gweld yn disgrifio’r bleidlais o ddiffyg hyder o ran Vaughan fel ‘political stunt‘.