Mae’r bwriad i osod peilonau yng nghefn gwlad yn bwrw cysgod hir tros etholaeth newydd yn y gorllewin…

Yn dilyn newid ffiniau etholiadol Cymru, mae sedd newydd ‘Caerfyrddin’ yn cyfuno holl hen etholaeth Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, a rhan o hen etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.

O ran daearyddiaeth, mae’r sedd newydd yn mynd o Lacharn a Llanboidy yn y gorllewin drwy Landdarog a thref Caerfyrddin, fyny at Lanymddyfri yn y dwyrain.

O ran yr hen seddi sy’n rhan o’r etholaeth newydd, Plaid Cymru wnaeth ennill Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn 2019, gyda 39% o’r bleidlais.

Y Ceidwadwr Simon Hart wnaeth ennill Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro gyda 53%, a hynny mewn sedd y bu yn ei chynrychioli ers 2010.

Felly mae’r cyfuniad yma o ddwy etholaeth yn gwneud Caerfyrddin yn un o’r seddi mwyaf cyffroes yng Nghymru, gyda’r Ceidwadwyr, Llafur a Phlaid Cymru yn y ras.

Mae wyth ymgeisydd drwyddi draw – Will Beasley (Y Blaid Werdd), Nicholas Paul Beckett (Democratiaid Rhyddfrydol), Nancy Cole (Plaid Cydraddoldeb Menywod), Ann Davies (Plaid Cymru), David Mark Evans (Plaid Gweithwyr Prydain), Simon Hart (Ceidwadwyr), Bernard Holton (Reform UK) a Martha Angharad O’Neil (Llafur).

Y Gwyrddion

Yn sefyll i’r Blaid Werdd yng Nghaerfyrddin mae llawfeddyg ymgynghorol 52 oed o Gas-wellt ger Abertawe.

“Y rheswm dw i wedi dewis cael i mewn i wleidyddiaeth ydi oherwydd fy mod wedi cael llond bol o bobol yn y Gwasanaeth Iechyd yn dweud wrtha i fod ddim pwynt trio newid unrhyw beth gan mai gwleidyddion sy’n gwneud pob penderfyniad,” meddai ar ei gymhelliad i fod yn wleidydd,” meddai Will Beasley.

“Mi wnes i ymuno gyda’r Blaid Werdd gan mai nhw yw’r unig blaid sydd efo polisïau… i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd…

“Gan fod Caerfyrddin yn hanfodol ar gyfer ein systemau bwyd trwy amaeth, rydym angen gweithio yn galed i adeiladu system ffermio gynaliadwy sydd yn heb garbon ac yn fioamrywiol.”

Caerfyrddin oedd un o brif leoliadau protestiadau ffermwyr ‘Dim Ffermwyr, Dim Bwyd’ yn ymateb i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a oedd allan am ymgynghoriad nôl ym mis Mawrth.

Ers hynny, mae’r cynllun wedi’i ohirio, ac mae’n bwysig cofio bod amaeth yn fater datganoledig o dan ddeddfwriaeth y Senedd. Ond mae’n glir bod y gwrthdaro rhwng polisïau fel amaeth a net sero yn rhywbeth sydd yn rhan fawr o’r agenda etholiadol, a hynny fwy na’r arfer yn sedd Caerfyrddin.

Ac fel un sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd, mae gan Will Beasley farn bendant gan ddweud yn blaen fod y maes “ar ei bengliniau yn llwyr”.

Mae’r Gwyrddion wedi addo £50bn y flwyddyn yn fwy o fuddsoddiad yn y Gwasanaeth Iechyd erbyn 2030 yn eu maniffesto – mwy nag unrhyw blaid arall.

Y Lib Dem

Mae ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn byw yng Ngorslas sydd jest tu allan i ffiniau’r etholaeth newydd.

“Mae pobl wedi cael llond bol efo gwleidyddiaeth. Maen nhw weithiau ddim eisiau ymgysylltu neu siarad gyda ni,” meddai Nick Beckett sy’n 56.

“Maen nhw wedi cael llond bol gyda diffygion y Torïaid, felly mae gennym ni frwydr fawr ar y drysau i esbonio ein bod ni gyd ddim fel y Ceidwadwyr. M gan rai ohonom ni egwyddorion.”

Un o bynciau llosg Caerfyrddin yw cynlluniau gan gwmnïau Ynni Bute a Green Gen Cymru i osod 60 milltir o beilonau trydanol uwchlaw’r ddaear i gludo ynni adnewyddadwy o felinau gwynt i orsaf y Grid Cenedlaethol yn Llandyfaelog.

“Mi ddaru Jane Dodds bleidleisio ar gyfer ceblau tanddaearol yn y Senedd,” pwysleisia Nick Beckett yn cyfeirio at y bleidlais a gollwyd wythnos diwethaf.

“Rydym wedi bod yn ymgyrchu yn lleol ar y mater oherwydd ein bod gyda diwydiannau sydd yn ddibynnol ar dwristiaeth yn Sir Gâr, a’r peth olaf rydym eisiau gwneud yw adeiladu peilonau drwy ganol cefn gwlad.”

Mae’r Lib Dem hefyd yn dweud bod Cymru yn haeddu mwy o arian.

“Does ddim amheuaeth bod Cymru ddim yn cael bargen dda o’r berthynas gyda’r Deyrnas Unedig,” meddai.

Plaid Cymru

Cynghorydd sir Llanddarog sy’n sefyll dros Blaid Cymru yng Nghaerfyrddin.

Ac mae Ann Davies yn cadarnhau bod y cynllun peilonau yn dân ar groen trigolion Dyffryn Teifi a Dyffryn Tywi.

Mae nifer o gymdogion sy’n byw ger llwybr y peilonau wedi codi pryderon, gyda grŵp ‘Dyffryn Tywi, Dim Peilonau!’ wedi gosod arwyddion ar y tir mewn gwrthwynebiad i’r cynlluniau.

“Mae e wedi creu anniddigrwydd mawr, a theimlo eto bod yna Dryweryn ar ein stepen drws ni, pobl yn dod ac yn tynnu ein hadnoddau naturiol ni, a rhoi dim byd yn ôl i ein cymunedau,” meddai Ann Davies.

“Beth sydd eisiau ar Sir Gaerfyrddin a dros Gymru i gyd yw pobl leol sydd yn fodlon brwydro ac ymladd dros eu cymunedau, a dyna be gewch chi gen i.”

Mae ymgeisydd y Blaid yn brolio bod ganddi “brofiad bywyd” ym myd ffermio a busnes sy’n ei gwneud yn ymgeisydd cryf.

“Dw i wedi bod yn hunangyflogedig ers dros 30 mlynedd. Os ydych yn gweithio i’ch hun, rydych yn gwybod y jobyn o waith sydd arnoch chi i wneud. Mae e hefyd yn rhoi gwytnwch, y math yma o resilience sydd angen arnoch chi i fod yn berson cymunedol ac i fod yn wleidydd da”.

Plaid Gweithwyr Prydain

Nid yw Plaid Gweithwyr Prydain yn sefyll ym mhob sedd yng Nghymru, ond maen nhw wedi derbyn digon o sylw ers i George Galloway ennill yn is-etholiad Rochdale ym mis Chwefror.

Yn sefyll dros Blaid Gweithwyr Prydain yng Nghaerfyrddin mae David Mark Evans, 64.

Cyn ymuno â Phlaid y Gweithwyr bu yn gynghorydd Ceidwadol yn Llundain.

“Wnes i ddarganfod bod Plaid y Gweithwyr yn sefyll drosta i; ac, roedd bod yn flin eto gyda beth sydd yn digwydd i’n gwlad ni, ac ein cymunedau ni… roeddwn eisiau estyn allan a rhoi llais i bobl,” meddai.

“Y problemau mwyaf yw’r rhai amlwg – costau byw, iechyd gwael a gwasanaethau lles; gwasanaethau addysg gwael, dyfodol ar gyfer ein plant; a sut rydym yn gwarchod ein treftadaeth sydd yn cael ei anwybyddu gan y ‘system’”

Y Ceidwadwyr

Y gwleidydd mwyaf adnabyddus yn y ras yw Simon Hart, y Ceidwadwr 60 oed sydd wedi bod yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac sydd bellach yn Brif Chwip y blaid.

Mae yn ceisio cael ei ethol am y pumed tro yn olynol, ond yn wynebu her a hanner y tro hwn gyda’r polau piniwn yn drychinebus i’w blaid.

“Mae’r sedd newydd yn fwy dibynnol ar bethau fel amaeth a lletygarwch na’r hen sedd,” meddai Simon Hart a fu yn cynrychioli Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro ers 14 mlynedd.

“Yn fy hen sedd roedd gennym ni sefydliadau mawr fel [purfa olew] Valero, ac yn Aberdaugleddau’r ystâd ddiwydiannol, pethau sydd yn gyrru’r economi ar gyfer yr ardal.”

Daw cadarnhad gan y Tori hefyd bod yr ymgyrch peilonau yn daten boeth ar y stepen ddrws.

“Mae o’r peth sydd yn gyrru dicter a rhwystredigaeth mwy nag unrhyw beth arall.”

Ac mae yn cydnabod bod ef a’i blaid mewn dipyn o dwll wedi 14 mlynedd yn llywodraethu gwledydd Prydain.

“Dw i’n cofio yn 2010, yn cael y frwydr yna gyda Llafur bryd hynny, ac mae e’n hawdd. Mae e’n hawdd gwneud honiadau am lywodraeth neu Aelod Seneddol sydd wedi bod mewn swydd am amser hir,” meddai.

“Roedd yr etholiad hwn wastad yn mynd i fod yn anodd. Ond dwi yn meddwl bod strategaeth Keir Starmer o ‘jest peidio bod yn Dori’ ddim yn rhywbeth sydd gydag unrhyw fath o apêl hir dymor iddo fe.

“Dw i wedi sylweddoli bod yna gymhariaeth fawr rhwng sut mae pobl yn gweld Llafur heddiw ac yn 1997. Pan ddaru Blair ddod i mewn roedd pobl wir wedi cyffroi – dw i ddim yn teimlo hyn o gwbl y tro yma. Nid oes cyffro ymysg y bobl.”

Er nad yn “hunanfodlon” am y bygythiad, niw yw Simon Hart yn credu y bydd pleidleiswyr asgell dde yn troi at Reform mewn niferoedd digonol i niweidio’r Ceidwadwyr.

“Mi fyddai yn weithred enfawr o hunan-niweidio, os fyddai Reform yn rhoi mwyafrif enfawr i Lafur ac yn eu galluogi nhw i ddadwneud pob dim mae Reform yn ymgyrchu drosto,” meddai.

Reform

Dyn plaid Reform yw Bernard Holton, 71, sydd yn wreiddiol o Hastings yn ne Lloegr ond wedi byw yng Nghaerfyrddin ers 40 mlynedd.

Gyda’i blaid yn addo atal mewnfudo “non-essential” i Brydain a chael gwared ar restrau aros y Gwasanaeth Iechyd, mae yn targedu Simon Hart.

“Dw i’n hyderus o guro’r Ceidwadwr, sef y Prif Chwip,” meddai Bernard Holton.

“I fi, mae e wedi mynd yn barod. Mae e wedi cael ei baentio â’r un brwsh ag y mae nifer o’r Ceidwadwyr wedi’i dderbyn yn ddiweddar.

“Dw i’n disgwyl un ai y bydda i’n ail, neu’n drydydd tu ôl i Lafur a Phlaid Cymru. Ond byddwn i’n hoffi cael go ar Blaid Cymru hefyd.”

Er i Golwg ofyn am gyfweliadau gyda Nancy Cole o Blaid Cydraddoldeb Menywod a Martha O’Neil o’r Blaid Lafur, nid oedd yr un o’r ddwy ar gael.