Nid oedd gan Blaid Cymru ddewis ond gadael y cytundeb gyda’r Blaid Lafur os am gadw ei hygrededd gwleidyddol. Bûm yn ei chefnogi ers dros 60 mlynedd. Er hynny, cywirdeb cyn plaid. Yn enw democratiaeth rhaid i’r Blaid wneud tro pedol ynglŷn â’r dull o bleidleisio cyfrannol sydd i’w fabwysiadu, os yw’n honni ei bod am wella democratiaeth.