Yn wreiddiol o Bontarddulais ac yn byw yng Nghaerdydd erbyn hyn, mae’r actores 32 oed yn portreadu ‘Sioned Charles’, un o gymeriadau mwyaf tanllyd Pobol y Cwm, ers pymtheg mlynedd.

Ac ers rhai blynyddoedd bellach mae wedi bod yn helpu merched i gadw’n heini ar-lein, gan adeiladu cymuned sy’n cefnogi ei gilydd ac yn mynd ar ‘Tribe Treks’ i wahanol rannau o’r wlad…

Beth wnaeth eich denu i fyd actio?