Mae pencampwr Mixed Martial Arts Amatur Ewrop yn anelu’n uwch, ac yn gobeithio dod yn gwffiwr proffesiynol yn fuan.

Enillodd Nathan Lambert ei bencampwriaeth fwyaf yn ddiweddar ac mae’r llwyddiant wedi’i sbarduno yn ei flaen.

Dechreuodd Nathan, sy’n 27 oed ac yn dod o Dregarth ger Bethesda yng Ngwynedd, ymarfer y crefftau ymladd cymysg – Mixed Martial Arts (MMA) – pan oedd yn ei arddegau, cyn troi at gystadlu tua saith mlynedd yn ôl.

Mae MMA yn cyfuno’r gwahanol fathau o grefftau ymladd, gan gynnwys bocsio, cic bocsio, muay thai a jujutsu, ac er bod Nathan yn well am reslo a jujutsu i ddechrau, mae’r cyfan wedi dod ynghyd bellach.

Nawr yn byw yn Northampton, ac yn gweithio fel technegydd yn creu darnau o awyrennau mewn ffatri yno, mae Nathan yn cwffio tua dwywaith neu dair y flwyddyn ac wrth ei fodd yn cynrychioli Cymru ar lwyfan yr MMA.

Ar ôl cael ei gyflwyno i MMA yng nghampfa’r Pound ym Mangor gan ei dad, daeth Nathan “yn gaeth” i’r gamp gan hyfforddi gymaint ag y gallai.

“Pan oeddwn i’n 20 fe wnes i ddechrau cystadlu a chymryd o o ddifrif, cyn hynny roeddwn i’n cael hwyl efo fo ac yn chwarae o gwmpas pan oeddwn i yn y fy arddegau,” eglura Nathan.

“Bryd hynny, fe wnes i ddweud wrth fy hyfforddwr fy mod i eisiau gwneud ryw fath o gystadleuaeth, felly fe wnaethon ni ffeindio sioe ac fe wnes i guro. Ar ôl hynny roeddwn i’n hooked ac eisiau cystadlu bob tro.

“Fe wnaeth o ddechrau pan wnes i guro’n ffeit cyntaf, a gefais i’r thrill. Roedd gen i ofn mawr mynd mewn i’r gawell, roeddwn i’n meddwl: ‘Sut dw i’n dod allan o hyn?’

“Ond roedd o’n ryw fath o rwystr meddyliol ac roeddwn i eisiau rhoi go arno fo.

“Ar ôl i fi gael un neu ddau ffeit fe wnes i ddechrau mwynhau’r hyfforddi, a gwella wrth hyfforddi efo pobol eraill sydd gyda’r un nod â fi.”

Sgarmes yn Solihull

Roedd dod yn bencampwr amatur Ewrop yn y categori pwysau welter – sef tua 12 stôn – nôl ym mis Mawrth yn deimlad “afreal”, meddai Nathan, gan gadarnhau mai dyma ei lwyddiant mwyaf hyd yn hyn. Curodd Nathan ei wrthwynebydd, gŵr o’r enw Daniel Pedersen o Norwy, i gipio’r teitl mewn sgarmes yn Solihull ger Birmingham.

“Dw i wedi bod yn trio rhoi fy enw allan yna achos dw i eisiau troi’n broffesiynol yn y pen draw,” meddai Nathan, sydd wedi ennill sawl teitl MMA mewn gwahanol rannau o wledydd Prydain.

“Mae cael y beltiau a rhoi fy enw allan yna, i allu cynrychioli Cymru fel rhywun sy’n gwneud yn dda yn MMA, mae o’n meddwl lot i fi.

“Y meddylfryd wrth fynd mewn i bob ffeit ydy fy mod i’n cymryd o un ffeit ar y tro.”

Nôl ym mis Mawrth roedd Nathan yn torri ei fol eisiau ennill y teitl Ewropeaidd yn Solihull.

“Ar y pryd, roeddwn i’n meddwl mai’r belt yna oedd y peth mwyaf pwysig i fi ei gael ar y funud, roeddwn i’n obsesio dros guro’r teitl yma. Dyna’r unig beth oeddwn i’n feddwl amdano fo.

“Dw i wedi bod yn siarad efo’r hyfforddwr a fyswn i’n licio cael o leiaf un ffeit [amatur] arall, efallai dwy, ac wedyn troi’n broffesiynol erbyn diwedd y flwyddyn – dyna’r cynllun.”

Mae cwffio MMA yn fusnes mawr yn America ac mae dwy gystadleuaeth broffesiynol sy’n denu’r penawdau – yr Ultimate Fighting Championship (UFC) a’r Professional Fighters League.

Gall goreuon yr UFC ennill miliynau o ddoleri am gymryd rhan mewn un ornest, ac yn 2021 fe wnaeth y Gwyddel Conor McGregor ennill $180 miliwn.

Ac mae yna Gymry yn rhan o’r miri hefyd.

“Mae lot o fois Cymreig yn yr Ultimate Fighting Championship ar y funud,” meddai Nathan.

“Mae gennym ni Jack Shore, roedd Brett Johns, ond mae o wedi symud i’r Professional Fighters League yn America.

“Mae yna lot o gwffwyr sydd ar y lefel uchaf o MMA, a dw i eisiau bod yn Gymro sydd yn yr UFC hefyd, fyswn i’n licio hynna.”

“Dw i ofn bob person dw i’n gwffio”

Ar hyn o bryd, mae Nathan yn hyfforddi yng nghampfa’r BST Academy yn Northampton, dan arweiniad Danny Batten, sy’n bencampwr byd mewn cwffio cawell. Yr arfer yw cael gornest baffio tua dwywaith y flwyddyn, er mwyn rhoi digon o amser i’r corff ddod at ei hun.

“Cyn ffeits dw i’n rhoi tua wyth i ddeng wythnos i fi’n hun i gael ffitrwydd fi fyny,” eglura Nathan.

“Weithiau ti’n gallu cael bownsio’n ôl yn sydyn o ffeit, curo heb ddim anaf, ac yn y chwe wythnos nesaf ti’n gallu cael ffeit arall.”

Mae Nathan yn cael help gan ambell hyfforddwr arall yn y BST Academy hefyd, sef Raymond Paul sy’n arbenigo ar MMA a jujutsu, a Lee Edwards sy’n focsiwr o fri. Cyn cwffio, mae’n cael cymorth Dr Sean Aspinall, maethegwr o Fro Morgannwg, efo’i ddeiet.

“Mae o’n helpu fi efo’r colli pwysau, i wneud yn siŵr fy mod i’n gwneud o’n saff a bod gen i’r egni i gwffio. Mae’r colli pwysau yn waeth na’r cwffio weithiau.”

Er ei lwyddiant, mae Nathan yn cyfaddef bod stwmp yn ei stumog cyn cwffio.

“Roeddwn i’n meddwl y bysa’r nerfau’n diflannu ar ôl cwpwl o ffeits, ond na – dw i dal i gael yr un fath,” meddai.

“Dim ots pwy ydy’r gwrthwynebydd, dw i’n cael yr un nerfau. Dw i ofn bob person dw i’n cwffio.

“Mae o’n beth da dw i’n meddwl, mae o’n normal iawn. Dw i’n dweud wrth fy hun eu bod nhw’n teimlo’r un fath hefyd, bod pawb yn nerfus.”