Dechreuodd bore Gwener gyda draen carthion wedi blocio. Erbyn datrys hynny roeddwn yn hwyr yn cychwyn am Ŵyl Llên Maldwyn. Wrth gyrraedd y B&B yn Nhrefaldwyn dyma ruthro i groesi’r ffordd a bron cael fy nghnocio drosodd gan gar gwyn ‘sporty’ oedd yn sicr yn gyrru llawer rhy gyflym ar ffordd fach wledig. Dim awgrym o gadw at 20 milltir yr awr. A dim ond y bore canlynol sylweddolais mai dyna’r agosa dwi wedi bod ers amser i ffarwelio â’r hen fyd yma. O ddifrif, dwi’n credu fy mod o fe