Straeon gwerin Sgandinafaidd a Slafig yw ysbrydoliaeth darlunydd o’r Cymoedd sydd wrth ei bodd yn gweithio ar lyfrau plant.

Mae lluniau Lily Mŷrennyn, sy’n 27 oed, wedi ymddangos rhwng cloriau llyfrau gan Manon Steffan Ros a Delyth Jenkins.

Byddai’r arlunydd o’r Rhondda wrth ei bodd yn sgrifennu a darlunio llyfrau ei hun, a chwedloniaeth yw ei phrif ddiddordeb.