Mae ffotograffydd adnabyddus eisiau dathlu’r ysbryd cymunedol a thrafod y newid byd yng Nghwm Gwendraeth…

Cwm Gwendraeth yw cynfas ffotograffydd sydd wedi bod yn dogfennu’r ardal ers dros bymtheng mlynedd.

Pentref Y Tymbl yn Sir Gaerfyrddin yw canolbwynt prosiectau Huw Alden Davies, a bro ei febyd sydd dan y chwyddwydr yn ei brosiect diweddaraf, The Great Mountain Portrait.