Gŵyl Felna Mai yw gŵyl Gymraeg gynta’r haf medden nhw, ac mae yna olygfa hyfryd o Foel Drigarn a Moel y Frenni o’r maes yn Sir Benfro…

Fe fydd Gŵyl Felna Mai yn cael ei chynnal yr wythnos nesaf (ddydd Sadwrn 4 Mai) ar safle Frenni Transport ar Barc Gwynfryn, Crymych yng ngogledd Sir Benfro – a hynny am y trydydd tro.