A ydych yn ymddiddori yn Iwerddon? Ydy’r Gwyddelod yn chwilfrydig am Gymru?

Dw i wedi bod wrthi’r wythnos hon yn darllen cyfrol hynod ddifyr gan Wasg Carreg Gwalch, Y Naill yng Ngwlad y Llall.

Wedi’i golygu gan Angharad Tomos, ynddi cawn ysgrif gan ddau awdur a ysgrifennodd am ymweld â gwlad y llall yn ystod y 1930au.