Glywsoch chi’r newyddion fod pobol ifanc yn talu llai a llai o sylw i’r newyddion?

Gyda chymaint o straeon digalon am ryfela a marwolaeth dramor, ac am dlodi a chyni ariannol a llanast y Gwasanaeth Iechyd a safonau addysg yn nes at adref, oes ryfedd bod yn well gan y to iau osgoi’r llif diddiwedd o newyddion gwael?

Wrth gwrs fod angen trafod ochr ddyrys bywyd a’r hyn sy’n mynd o’i le.

Ond yr hyn sydd yr un mor bwysig – os nad pwysicach? – yw dathlu’r da, y daionus a’r difyr.