Mae paratoi arddangosfa o’i waith yn oriel Tŷ Pawb yn Wrecsam wedi ail-gysylltu artist amryddawn gyda’i wreiddiau yn y ddinas…

Gweithio ar stondin ddillad ei rieni ym marchnad Wrecsam sbardunodd ochr greadigol yr artist amlddisgyblaethol Liaqat Rasul. Yn 11 oed, fe fyddai’n helpu ar y stondin ac, yn ddiweddarach, yn dylunio ffenestr siop ddillad ei Dad yn y ddinas.