Fe gododd cyngerdd dros heddwch yn Gaza yng Nghapel Bethesda yn yr Wyddgrug nos Sul dros £3,000.
Mudiad elusennol Cristnogol ‘Coda Ni’ oedd wedi trefnu’r digwyddiad yn hen gapel Daniel Owen. Yn ymuno â Dafydd Iwan ar y noson roedd y canwr Garth Hewitt, sydd wedi bod yn llais i Gristnogaeth radicalaidd ers y 1970au ac yn un o sylfaenwyr Gŵyl Roc Greenbelt. Roedd 250 o docynnau wedi eu gwerthu ymlaen llaw, a’r ddau berfformiwr yn rhoi eu hamser am ddim.
Bydd yr elw o £3,512 yn mynd i Apêl Gaza Amos Trust, i helpu tîm meddygol Ysbyty Al-Ahli Dinas Gaza a’r Gaza Sunbirds, criw o feicwyr ag anableddau sydd yn cludo pecynnau bwyd at bobol mewn angen.
Cofio enwau’r meirwon
Wrth gyrraedd y capel, roedd pawb yn cael darn o bapur ag arno enw un o’r miloedd o blant sydd wedi cael eu lladd yn Gaza dros y misoedd diwethaf, i’w sgrifennu ar faner. Enw fel hwn: ‘Mohammad Mahmoud Yousef Al-Hissi – 3 oed’. Gofynnodd y Parchedig Nan Wyn, a oedd yn llywio’r noson, i bawb gofio’r enw oedd ganddyn nhw. Roedd baner fawr arall, ag arni gannoedd o enwau meirw ifanc, yn hongian y tu mewn i’r capel – a oedd wedi’i chreu yn ystod gwylnosau heddwch Caernarfon.
Mae Garth Hewitt yn offeiriad ordeiniedig ac yn Ganon Anrhydeddus Eglwys Gadeiriol San Siôr yn Jerwsalem, ac wedi ymweld ag ysbyty Al-Ahli yn Gaza. Cafodd ei ysbrydoli yn ystod ei arddegau ar ôl bod i weld anerchiad gan Martin Luther King. Canodd ganeuon heddwch fel ‘Welcome the Peacemaker’, ‘Pope went down to Nagasaki’, a ‘My Name is Palestine’ – oedd â’r geiriau ‘I will survive, I will survive, My name is Palestine, I will survive’.
Agorodd Dafydd Iwan ei set gyda’i addasiad o gân brotest Woodie Guthrie, ‘Mae’n Wlad i Mi’.
“Mae’n dda bod ni’n cael gwneud rhywbeth, rhywbeth i helpu’r sefyllfa drychinebus sy’n wynebu plant a phobol Gaza yn arbennig,” meddai. “Mae’n dda cael rhannu llwyfan gyda rhywun sy’n canu mor gryf am anghyfiawnderau’r byd, a gwneud hynny fel Cristion.
“Dw i’n genfigennus wrtho fo – achos dw i wedi stopio sgrifennu caneuon fy hun, ac un rheswm ydi does yna ddim byd yn newid. Mae’r caneuon sgrifennais i 40 mlynedd, 50 mlynedd yn ôl yn berthnasol heddiw achos mae popeth yn digwydd eto. Mae rhyfeloedd yn dal i ddigwydd, mae newyn yn dal i ddigwydd, mae plant yn dal i farw.”
Rhoddodd ei reswm dros ganu’r gân ‘Esgair Llyn’, sy’n sôn am le yn Sir Drefaldwyn sydd yn agos at ei galon. “Rydan ni yma heno achos bod pobol yn perthyn i dir ac yn perthyn i le, ac mae rhai pobol ddim yn cael yr hawl i berthyn,” meddai. “Mae’n bwysig ein bod ni’n ymladd dros yr hawl i bobol aros yn eu cynefin.”
Rhaid i’r Cymry uniaethu â’r frwydr ‘ym mhob man’
“Un frwydr sydd yna ar draws y byd am hawliau sylfaenol ac am ryddid,” meddai’r canwr, wrth gyflwyno’i gân deimladwy ‘Mae Rhywun yn y Carchar Drosom Ni’. Dywedodd ei bod wedi ei sgrifennu i atgoffa pobol bod cannoedd wedi bod yn y carchar dros yr iaith Gymraeg.
“Rhaid i ni beidio ag anghofio hynny, achos mae o’n un o’r ffeithiau bydd plant yn y dyfodol yn cael eu dysgu,” meddai. “Bod pobol yn teimlo mor gryf bod nhw’n fodlon mynd i’r carchar i weld eu hiaith yn dod yn iaith swyddogol ac yn cael ei defnyddio i bob pwrpas yn eu gwlad eu hunain.”
Eglurodd yn Saesneg ei bod hi yn y bôn yn gân am bobol sy’n dioddef ym mhob cwr o’r byd dros eu hawliau, a bod yn rhaid i ni deimlo’n un â’r frwydr dros gyfiawnder ymhob man. “I think it was Martin Luther King who said that the threat to justice and injustice is the same everywhere,” meddai, “and if we don’t raise our voices against injustice we are complicit in it.”
Canodd ‘Oscar Romero’, am yr esgob o San Salvador a gafodd ei ladd am godi ei lais yn erbyn anghyfiawnder, ac ‘Aborijini’, cân am bobol frodorol Awstralia. “Cân y trigolion gwreiddiol ydi hon,” meddai.
Wrth gyflwyno ‘Maen nhw’n Paratoi at Ryfel’ cyfeiriodd at ei farn am weithredoedd diweddar gwladwriaeth Israel. “Mae hi’n ddychrynllyd o sefyllfa yn y Dwyrain Canol,” meddai.
“Ryden ni’n cefnogi Israel wrth gwrs… i’r pen draw, ond ryden ni eisie iddyn nhw newid y ffordd maen nhw’n bomio Gaza. Ryden ni’n rhan o’r drefn sy’n gollwng bwyd efo parasiwtau ar ben y bobol yn Gaza ac yna mae bomiau yn disgyn. Rydech chi a fi yn talu amdanyn nhw. Dyna’r sefyllfa echrydus sydd ohoni. Maen nhw’n paratoi at ryfel, yn eich enw chi a fi.”
Wrth gyflwyno’r gân ‘Hawl i Fyw’, yr oedd wedi’i sgrifennu mewn ymateb i’r newyn yn Ethiopia yn y 1980au, dywedodd yn smala: “Dyma gân newydd a sgrifennais i tua 40 mlynedd yn ôl”. Bob tro y bydd yn ei chanu, meddai, mae hi’n wlad wahanol ond mae’r sefyllfa’r un peth.
Yma o Hyd – ‘yn dechre mynd ar fy nerfe i’
Yna daeth at ei anthem fawr, ‘Yma o Hyd’, sydd wedi dod yn boblogaidd tu hwnt yn ddiweddar ar ôl i dîm pêl-droed Cymru ei mabwysiadu.
“Unrhyw sefyllfa mae rhywun yn cael esgus i ddweud ‘Yma o Hyd’ wrtha i bob dydd! Mae hi’n dechre mynd ar fy nerfe i!” meddai. “Maen nhw’n dweud wrtha i, wrth bregethu, ‘diolch yn fawr i chi am ddod yma, mae’n dda bod chi ‘yma o hyd’.’” Bu chwerthin mawr am hyn.
Mae hi’n gân sy’n berthnasol i bob cenedl sydd yn ceisio goroesi a pharhau, meddai, ac rydyn ni i gyd yn rhan o’r un frwydr “dros ryddid, cyfiawnder a hunan-barch”.
Un o’r profiadau “hynotaf a mwya’ dirdynnol” iddo eu cael erioed oedd gweld llun o filwr ifanc o Wcráin a oedd wedi cael ei ladd yn y rhyfel yn sefyll o flaen wal. Ar y wal roedd y geiriau ‘Yma o Hyd.’
“Yn amlwg roedd rhywun o Gymru wedi bod yno ac wedi sgrifennu ‘Yma o Hyd’ ar y wal, a galla i ddim esbonio’n iawn beth o’n i’n ei deimlo pan welais i hynna. Ond yr un frwydr yw hi, yr un gelyn rydyn ni’n ei ymladd ar draws y byd. Ry’n ni’n anfon ein cariad, ein cefnogaeth a’n gobeithion at bobol ddewr Wcráin, Gaza, Yemen, Swdan… yr holl bobol yma sy’n dioddef.”
Ymunodd criw Côr y Pentan i ganu ‘Yma o Hyd’ gyda Dafydd Iwan, a Garth Hewitt ar yr organ geg. I gloi, fe ganodd Garth ei gân fwya’ adnabyddus, ‘No Injustice Will Last Forever’.
Bydd cronfa Coda Ni ar wefan Just Giving yn agored tan ddiwedd Ebrill. “Mae pob ceiniog yn cyfri,” meddai Ffred Ffransis, un o’r trefnwyr, “yn y gwaith o roi cartrefi a gobaith newydd i bobl Gaza at y dyfodol a chymorth brys yn awr.”