Mae pennaeth Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn dweud y byddwn ni’n colli traean o holl gapeli ac eglwysi Cymru erbyn 2030, sef ‘adeiladau mwyaf hanesyddol unrhyw gymuned’.
Roedd Christopher Catling yn ymateb i arwerthiant arfaethedig Eglwys Llanfihangel-yng-ngwynfa, lle mae bedd Ann Griffiths yr emynydd. Roedd yr arwerthiant i fod heddiw (11 Ebrill), ond wedi ymateb chwyrn ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn y wasg, gyda llawer o’r diolch am hynny i’r gantores Lleuwen Steffan am godi’r mater ar twitter, mae’r Eglwys yng Nghymru wedi gohirio’r arwerthiant am flwyddyn.
Mae Christopher Catling hefyd yn Gadeirydd fforwm Addoldai Hanesyddol Cymru, sy’n dod â’r bobol hynny sy’n rheoli eiddo capeli ac eglwysi ynghyd er mwyn ystyried eu dyfodol.
“Yr hyn r’yn ni’n bwriadu ei wneud yw cadw cymaint o addoldai at ddefnydd cymunedol ag sy’n bosibl,” meddai. “Mae’n dasg anodd iawn oherwydd y niferoedd uchel. R’yn ni’n mynd i golli o leiaf traean o’n holl gapeli ac eglwysi erbyn 2030. Maen nhw’n cau ar gyflymdra aruthrol.
“Ein safbwynt ni yw ein bod ni eisiau gweld cofnod yn cael ei gadw o’r adeilad, y bobol, yr archif, y dodrefn fel bod pobol yn y dyfodol yn gwybod sut beth oedd bywyd crefyddol Cymru.”
Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn talu sylw arbennig ar hyn o bryd i eglwysi a chapeli, yn ôl y Prif Weithredwr. “Maen nhw’n cael eu gwerthu a’u gwagio a’u troi’n gartrefi gwyliau ac ail gartrefi,” meddai Christopher Caitling.
Angen trafod gyda’r trigolion cyn gwerthu eglwys
Y broblem fwyaf yw diffyg ymgynghori yn lleol cyn i’r adeilad fynd ar werth, yn ôl Christopher Catling.
“Yr hyn sy’n digwydd yw bod yr eglwysi a’r capeli’n cau, a phenderfyniadau a chamau’n cael eu cymryd cyn i’r gymuned wybod,” meddai. “Yn Llanfihangel-yng-ngwynfa, nid oedd y gymuned leol yn gwybod am y bygythiad nes i’r eiddo fynd i ocsiwn. Mae eisiau i’r rheiny sy’n rheoli eiddo eglwysig a chapeli roi’r gorau i ystyried eu hunain fel yr unig randdeiliaid yn yr adeilad, a chydnabod bod yna bobol yn y gymuned a fydd yn helpu ac yn siarad â nhw am ddyfodol yr adeiladau.”
Yn y gorffennol mae’r hanesydd Elin Jones wedi beirniadu’r Llywodraeth yn Golwg am roi gormod o gefnogaeth i gestyll ar draul trysorau diwylliannol y werin bobol fel capeli ac eglwysi.
“Byddai’n hynod gostus i’r Llywodraeth gamu i mewn yn ariannol,” meddai Christopher Catling, “ond yr hyn y gallan nhw ei wneud yw ei gwneud hi’n haws i eglwysi a chapeli ddod yn ased cymunedol. Mae yna bob math o rwystrau cyfreithiol y mae’n rhaid mynd drostynt ar hyn o bryd a gellid yn hawdd eu symleiddio.
“Nhw yw’r adeiladau mwyaf hanesyddol mewn unrhyw gymuned a dylem wneud ein gorau glas i’w cadw mewn defnydd cymunedol.”