Deuddeg oed ydi o. Oed rhyfedd, yn enwedig y dyddiau yma – rhy hen i fod yn blentyn, rhy ifanc i fod yn ddyn, neu efallai mai fi sydd ddim yn siŵr iawn sut i drin person yn y cyfnod rhwng y ddau beth. Gwern bach ni, ’mabi fi, er ei fod o’n dalach na fi a’i lais o’n dechrau torri.

Y newyddion sy’n dal ei lygad o un bore cyn ysgol, ar y teledu bach yn y gegin fel mae o’n llwytho’i dôst efo menyn cnau a dwinna’n gwneud ein bocsys bwyd ni. Tydi o’m yn un i wylio’r teledu. Ffôns ydi bob dim ganddo fo a’i ffrindiau, fel tasa sgrin fach yn well peth. Ond mae o’n digwydd edrych i fyny ar y teledu ar yr eiliad iawn, a’i lygaid o’n cael eu hoelio am eiliad, y gyllell yn ei law yn llonyddu.

‘Pwy di’r boi ’na?’

‘Vaughan Gething ’di enw fo. Fo ’di’r Prif Weinidog newydd.’

Mae Gwern yn gwylio, ei aeliau yn codi’r mymryn lleiaf mewn syndod. Dim ond am ychydig eiliadau. Cyn hir, mae ei sylw yn ôl ar ei dôst, ond fe welais i wyneb fy hogyn bach yn gweld ei Brif Weinidog newydd, a’r sglein o ryfeddod wrth iddo weld ei fod o’n edrych fel fo.

‘Da ni’n dda am smalio nad ydan ni’n gweld y ffordd mae pobol yn trin Gwern. Yn siarad Saesneg efo fo’n gyntaf bob amser, hyd yn oed os ydyn nhw’n siarad Cymraeg efo fi, ei fam wen. Yr athrawes ffeind, naïf yn meddwl ei bod hi’n gwneud y peth sensitif wrth iddi ofyn a hoffai o wneud ei brosiect hanes ar linach egsotig ei dad, er nad ydy’r goeden deulu yn ymestyn yn bellach na Chaerdydd am genedlaethau.  Y ffaith fod ar bobol ei ofn o os ydy o’n dychwelyd o’r parc mewn hwdi tywyll am ei bod hi’n oer, er nad oes ofn ei ffrindiau ar neb.

Dwi’n gwybod dim am y Prif Weinidog newydd yma, er mawr cywilydd i mi, ac mi leciwn i taswn i na Gwern yn meddwl am liw ei groen. Ond am unwaith, mae rhywun sy’n edrych fel fy mab ar y newyddion am ei fod o’n ddyn pwysig. A dwi’n falch, mor mor falch, fod Gwern wedi dal llygad y dyn oedd ar sgrin y teledu’r bore ’ma, ac wedi gweld ei adlewyrchiad ei hun mewn newyddion da.