Ar derfyn ei bum mlynedd wrth y llyw, mae teyrngedau wedi eu talu i Mark Drakeford wrth iddo roi’r gorau i fod yn Brif Weinidog Cymru.

Bu i’w arweinyddiaeth ddod i ben yn swyddogol ddydd Mawrth pan fynychodd ei sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog olaf.

Daeth yr arweinydd yn ffigwr cyfarwydd yn ystod y pandemig wrth iddo ymddangos ar deledu yn ddyddiol ac yn ôl rhai, mae clod yn ddyledus iddo am ei rôl yn cynyddu’r ddealltwriaeth o’r tirlun gwleidyddol yng Nghymru.