Mae Pencampwriaeth Chwe Gwlad y Menywod yn cychwyn yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn, a Seimon Williams sy’n edrych ymlaen. Ond mae angen edrych yn ôl ar Chwe Gwlad y dynion hefyd – sori!

Os oes yna un elfen o rygbi Cymru sy’n cynnig gobaith ar hyn o bryd, yna mae’n rhaid mai gêm y menywod yw honno.