Mae Cymraes sy’n hoffi “gwisgoedd boncyrs” yn gwerthu ei dillad yn Los Angeles, Barcelona a Taiwan.

Ac mae aelodau The Last Dinner Party – un o fandiau newydd poetha’ Prydain – yn gwisgo ei chreadigaethau…

Ffilmiau ffantasi, Dylan Thomas a hanes diwylliannol Cymru ydy ysbrydoliaeth dylunydd ffasiwn sy’n creu dillad o hen bethau sydd wedi eu hailgylchu.