Yn fwrlwm o afonydd a’r llynnoedd yn frith, mae Eryri’n baradwys i nofwyr gwyllt.

O leiaf unwaith yr wythnos, mae mam i dri yn plymio i ddyfroedd oer y gogledd-orllewin – ac yn cael “buzz” mawr wrth wneud hynny.

Mae Emma Marshall wedi bod yn chwilio am byllau delfrydol ac ar fin cyhoeddi cyfrol yn llawn o’i ffefrynnau.

Mae Wild Swimming Walks Eryri yn cynnwys 28 taith gerdded o bob congl o’r Parc Cenedlaethol, a phob un yn pasio lle addas i nofio.

Chwiw ddiweddar ydy nofio gwyllt i Emma. Er ei bod hi’n hen law ar gerdded a rhedeg yn y mynyddoedd, ni fentrodd i’r dŵr nes y cyfnod clo. Nawr, mae’r fam yn nofio tu allan ym mhob tymor.

“Cyn [y cyfnod clo] y peth oedd pawb yn ei wybod am Emma oedd bod Emma’n casáu dŵr oer a dydy Emma byth yn mynd i nofio,” meddai Emma, sy’n byw yn Nyffryn Ogwen gyda’i gŵr Iwan, a’u plant, Loti, Wil a Griff.

Yn ystod tywydd braf 2020, roedd y teulu’n cerdded yr ychydig gaeau o’u cartref at Afon Ogwen a byddai’r plant yn annog Emma i ymuno â nhw yn y dŵr. A dyma hi yn mentro mewn atyn nhw un diwrnod, a gwirioni.

“Roeddwn i’n hollol gaeth yn syth. Dw i’n meddwl mai’r wyddoniaeth tu ôl iddo fo ydy’r dopamin a’r endorffins. Ond i fi, dw i’n teimlo fel fy mod i’n buzzio wrth ddod allan ac mae o’n para am oriau.”

Llyn Caseg Fraith yn Nyffryn Ogwen

Rhoddodd Emma ei bryd ar ddod o hyd i lefydd braf i nofio, ac wrth rannu lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol sylweddolodd nad oedd pobol yn gyfarwydd â’r mannau mwyaf amlwg ar gyfer nofio al fresco, hyd yn oed.

“Be sy’n arbennig i fi ydy’r llefydd,” eglura Emma. “Dw i ond yn mynd i lefydd arbennig i nofio ac, fel arfer, llefydd lle does yna neb arall.”

Awgrymodd ffrind y byddai’n dda o beth iddi sgrifennu llyfr yn cofnodi rhai o’r mannau gorau i nofio, a daeth at draws cyfres Wild Swimming Walks, sydd eisoes yn cynnwys cyfrolau ar lecynnau hardd yn ne Cymru ac amryw o lefydd tu hwnt i Glawdd Offa.

Mae’r gyfrol ddiweddaraf yn cynnwys ambell le cyfarwydd megis Llyn Padarn yn Llanberis, ynghyd â mannau tawelach fel Bryn Cader Faner yn Nyffryn Ardudwy, Llynnau Cwm Silyn yn Nyffryn Nantlle ac Afon Llaethnant yn Llanymawddwy ger Dinas Mawddwy.

HOFF DEITHIAU’R AWDUR

Cylchdaith Nant Ffrancon ac Afon Ogwen

Mae dewis cyntaf Emma yn un lleol iawn iddi, ac yn cynnwys dau le i nofio. Mae’r gylchdaith bum milltir, sy’n dechrau ychydig i’r de o Fethesda, yn mynd â chi drwy goed derw ac ar hyd hen Lwybr yr Offeiriaid. Ar y daith mae golygfeydd ysblennydd o’r Glyderau a chyfleoedd i nofio yn Afon Ogwen.

“Dw i wedi crio wrth nofio yn fan yna, dw i mor emosiynol am yr holl beth – achos bod o mor agos at adre hefyd.”

Afon Ogwen yn Nant Ffrancon ger Bethesda

Cylchdaith Llyn Gamallt a Chwm Teigl

Bosib mai’r dro hon ger Llan Ffestiniog, pentref sydd dair milltir tu allan i Flaenau Ffestiniog, ydy un o’r rhai tawelaf yn y llyfr. Yn ogystal â phasio replica o garreg fedd sydd gydag ysgrif Rufeinig arni, mae rhan o’r daith chwe milltir ar hyd Sarn Helen, hen ffordd y Rhufeiniad o’r gogledd i’r de.

“Mae’n lle anhygoel, distaw, distaw. Dw i ddim yn meddwl fy mod i erioed wedi gweld person arall o gwbl, sy’n lyfli,” meddai Emma.

“Ar y ffordd yn ôl, rydych chi’n mynd yn ôl lawr i Gwm Teigl, ac mae’r golygfeydd o fan yna allan at y môr, Pen Llŷn, argae Stwlan, [mynyddoedd] y Manod a’r chwareli i gyd. Mae o’n lle arallfydol.”

Llyn Gamallt, Llan Ffestiniog

Menig, lot o haenau a chwrw bach

Tips nofio gwyllt Emma Marshall…

  • Peidiwch â mynd i’r dŵr os ydych chi’n oer yn barod – mae angen cynhesu cyn mynd mewn.
  • Ti’n gweld pobol yn gwisgo hetiau, ond i fi dydy hetiau gwlân ddim yn helpu o gwbl… ond be sydd yn helpu fi ydy gwisgo menig nofio go-iawn.
  • Mynd mewn yn araf deg, byth neidio mewn – mae’n bwysig i’r corff ddod i arfer â’r tymheredd. A chwffio’r teimlad i fynd yn syth allan gan fod y dŵr rhy oer – mi fydd o’n pasio.
  • I wneud yr holl brofiad yn neisiach, cael rhywbeth i yfed ar ôl bod. Sychu a gwisgo’n gyflym efo lot o haenau, symud i gynhesu. A phan ti ddigon cynnes, cael diod bach – coffi, te, siocled poeth, neu os ydy hi’n haf a ti’n ddigon hapus, mae cwrw bach yn neis.

Bydd Wild Swimming Walks Eryri yn cael ei gyhoeddi fis nesaf gan Wild Things Publishing.