Mae cerddor o Galiffornia wedi dod yn bell ers dechrau dysgu Cymraeg yn 2022, ac ar fin rhyddhau trac roc tafod-yn-y-boch o’r enw ‘Americanwr Balch’…
Mae’r Americanwr Pawlie Bryant yn “obsessed’ gyda cherddoriaeth ers iddo strymio gitâr am y tro cyntaf yn 13 oed. Dros dri degawd mae wedi rhyddhau pedair albwm sy’n tynnu ar ei ddylanwadau roc, pop, jazz a gwerin. Ac am y tro cyntaf erioed, mae’r canwr sy’n byw yn ninas glan-y-môr Santa Barbara yng Nghaliffornia wedi sgrifennu cân Gymraeg.
Trac tafod-yn-y-boch am agweddau Americanaidd y dyddiau yma ydy ‘Americanwr Balch’, cân a oedd o eisoes wedi’i rhyddhau yn yr iaith Saesneg. Penderfynodd Pawlie ei hail-ysgrifennu yn y Gymraeg er mwyn gweld ymateb y Cymry iddi. Mae’r cerddor wedi bod draw yma i loywi ei sgiliau yn Iaith y Nefoedd.
“Pan oeddwn i yng Nghymru’r llynedd wnes i lawer o ffrindiau newydd ac roedden nhw’n meddwl yr un pethau am America, gwleidyddion America a sefyllfa America,” meddai Pawlie, sy’n beiriannydd ac athro peirianneg.
“Dechreuais i feddwl: ‘Tybed fyddai gwrandawyr Cymraeg yn mwynhau clywed Brit o Galiffornia yn cymryd y piss allan o America yn Gymraeg?’
“Penderfynais ail-ysgrifennu cân o’r enw ‘Proud American’ o fy albwm yn 2021, An Ape’s Progress.
“Roedd rhaid ail-ysgrifennu yn hytrach na chyfieithu achos gyda geiriau caneuon neu farddoniaeth, mae’n anodd iawn cyfieithu heb golli’r odl neu’r rhythm.
“Dydy ‘Americanwr Balch’ ddim yn gân wladgarol o gwbl.
“Mae’n sarcastig, a dw i’n gobeithio y bydd pobol yn sylweddoli hynny ac yn gwerthfawrogi’r neges tafod-yn-y-boch.”
Denu’r hufen cerddorol
Ar gyfer y sengl penderfynodd Pawlie ddefnyddio cerddorion stiwdio, ond nid jesd unrhyw gerddorion chwaith. Mae criw Pawlie wedi chwarae efo rhai o fawrion y byd cerddorol. Ar y drymiau mae Jake Hayden sydd wedi chwarae gyda Beth Ditto, y gantores gyda’r llais hyfryd o gras a gafodd monster hit gyda’r gân ‘Standing in the Way of Control’ gyda’i band Gossip yn 2007. Ac mae’r gitarydd sy’n chwarae ar ‘Americanwr Balch’, Mike Keneally, wedi chwarae gyda gitarwyr byd enwog megis Frank Zappa, Steve Vai a Joe Satriani. Ac mae chwaraewr piano a synth Pawlie, Roger Joseph Manning Junior, wedi chwarae efo neb llai na Beck.
“Gyda fy albwm yn 2021, dechreuon ni’r prosiect ym mis Ionawr 2020, felly roedden ni’n bwriadu bwcio amser mewn stiwdio yn LA i recordio’r drymiau a’r bas ac ati,” eglura Pawlie.
“Ond wrth gwrs, daeth y byd i stop deufis wedyn.
“Felly newyddion da a drwg i ni.
“Newyddion drwg, wrth gwrs, achos roedd yn sefyllfa ofnadwy.
“Ond roedd yn newyddion da i’r prosiect achos roedd llawer o gerddorion, yn anffodus, ar gael ac yn barod i dderbyn prosiectau dros y We, i gael arian.
“Ro’n i’n lwcus iawn mewn cyfnod anffodus.
“Ro’n i’n nabod Jake a Dean [Dinning, bass a’r organ] yn barod, ond dw i wedi bod yn ffan o waith Mike ers o leiaf 20 mlynedd.
“Gwelais i rywbeth ar-lein yn dweud ei fod o ar gael felly anfonais i e-bost a chawsom ni sgwrs Facetime, ac aeth popeth o fan yno.
“Roedd o’n pinch me moment i gael pobol fel Mike a Roger.
“Roedd o’n anhygoel, fel dream team.”
Pasbort i’r byd Cymraeg
Mae’n debyg bod cymuned fawr yn ymddiddori yn y Gymraeg draw yn yr Unol Daleithiau, ac yn ddiarwybod i Pawlie yn 2022, byddai’n ymuno â’r gymuned honno yn fuan wedi sgwrs dros swper gyda ffrind.
“Mae’n stori ddoniol pam y penderfynais ddysgu’r iaith,” eglura Pawlie.
“Cafodd fy rhieni eu geni yn Lloegr ond doeddwn i ddim yn gwybod fy mod i’n ddinesydd deuol y Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau.
“Cyn y pandemig, roeddwn i a fy ngwraig yn cael swper gydag ein ffrind Joan, sy’n dod o Bontycymer yn wreiddiol, a gofynnodd hi am fy hanes.
“Dywedodd hi: ‘Wel, ti’n ddinesydd y Deyrnas Unedig felly’.
“Doeddwn i ddim yn siŵr felly wnes i chwilio ar-lein, ac fel arfer, roedd Joan yn gywir.
“Felly ges i fy mhasbort ac ar y dudalen gyntaf, gwelais i ‘British Passport’ wrth gwrs, ac o dan hynny gwelais i ‘Pasbort Prydeinig’.
“Beth oedd y geiriau rhyfedd a gwahanol yma?”
Ar ôl chwilio’n gyflym ar y We, daeth Pawlie i ddeall fod dwy iaith swyddogol yn y Deyrnas Unedig ac roedd hynny’n ddigon o wmff iddo ddechrau dysgu’r iaith.
“Os oes pasbort gyda fi, dylwn i ddysgu’r iaith!
“Dyna ddechrau fy nringfa fyny’r Mynydd Cymraeg.
“Mae’n iaith anhygoel ar gyfer canu, ac mae’r diwylliant Cymreig yn rhoi gwerth uchel iawn ar gerddoriaeth, barddoniaeth, llenyddiaeth a’r celfyddydau.”
Dechreuodd drwy ddefnyddio Duolingo i ddysgu’r iaith cyn mynd ymlaen i gofrestru ar gyfer cwrs mynediad gyda’r Ganolfan Cymraeg Genedlaethol. Erbyn hyn mae Pawlie wedi pasio’r cwrs hwnnw ac ar ganol y cyrsiau sylfaen a chanolradd, ac yn gobeithio concro’i fynydd iaith yn fuan.
Ar ei drafels
Bwriad Pawlie yw treulio o leiaf mis bob blwyddyn yng Nghymru, a bu draw am y tro cyntaf y llynedd. Bydd yn ymweld unwaith eto dros y gwanwyn eleni ac yn ystod ei amser yn y gogledd bydd yn cymryd rhan mewn cwrs preswyl yn Nant Gwrtheyrn er mwyn datblygu ei sgiliau ieithyddol ymhellach. Yn y pen draw, mae’n gobeithio ymddeol yng Nghymru a chael teithio’r wlad gyfan.
“Teimlais gysylltiad â Chymru bron ar unwaith,” meddai’r cerddor.
“Cwympais i mewn cariad, yn enwedig efo gorllewin Cymru – Sir Benfro, Sir Gâr, Pen Llŷn a Sir Fôn – waw!
“Cwympais i mewn cariad gyda Nant Gwrtheyrn hefyd, ond dyw e ddim yn anodd gwneud hynny.
“Dw i’n trio ychwanegu rhywle newydd pob tro fydda i’n ymweld.
“Mae’n fynydd arall i’w ddringo, wrth gwrs, ond byswn i’n dwli ar ymddeol yng Nghymru.”
Ond nid astudio’n unig fydd Pawlie ar ei ymweliad gan ei fod yn gobeithio cael cip ar rai o fandiau ac artistiaid y sîn roc Gymraeg.
“Ar ôl dechrau dysgu, doedd o ddim yn hir cyn dechreuais i feddwl: ‘Beth am gerddoriaeth Cymraeg te?’
“Es i ar-lein a ffeindiais i gylchgronau i ddysgu am artistiaid ac ati, ac es i ati i wrando ar Meic Stevens, Gwilym Bowen Rhys, Big Leaves, Sŵnami, Lewys, Dafydd Owain, Cowbois Rhos Botwnnog… pawb!
“A cherddoriaeth Cymraeg dw i’n gwrando ar y rhan fwyaf o’r amser rŵan – dw i’n dechrau bob dydd yn gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg.
“Dw i’n gobeithio cael mynd i gig pan dw i yng Nghymru y tro yma.”
Bydd ‘Americanwr Balch’ ar gael i’w ffrydio ar 29 Mawrth