Mae band newydd ar y bloc yn y Bala sydd eisiau efelychu Candelas a’r Cledrau…

Bandiau lleol fel Candelas a’r Cledrau sydd wedi dylanwadu ar griw ifanc o’r Bala sydd newydd ryddhau eu hail sengl.

Wedi’r gigio prysur dros y flwyddyn ddiwethaf a rhyddhau eu sengl gyntaf, ‘Llwybrau’, mae Mynadd yn eu holau gyda ‘Dylanwad’.