Mae’r Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth wedi dweud y bydd yn dileu ei gyfri X pan fydd yn gadael ei rôl ymhen pythefnos…

Mae Lee Waters, Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth Llafur Cymru, wedi awgrymu y bydd yn gadael ei rôl yn y Llywodraeth unwaith y caiff olynydd Mark Drakeford ei benodi.

Mae’r cyfnod pleidleisio eisoes wedi cychwyn a disgwylir bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi wythnos i ddydd Sadwrn, ar 16 Mawrth.